Mae saer wedi diolch i lawfeddyg am achub ei fawd ar ôl iddo gael ei dorri i ffwrdd gyda llif mewn damwain yn y gwaith.

Treuliodd Arwel Davies ddeng munud yn chwilio am ei fawd cyn dod o hyd iddo a mynd ar garlam i’r ysbyty.

Digwyddodd y ddamwain pan oedd y saer 42 oed o Lansadwrn yng Nghaerfyrddin yn gweithio y tu allan i dŷ cwsmer yn Llandeilo.

“Fe ddigwyddodd ar Fedi’r cyntaf am ddau o’r gloch y prynhawn,” meddai.

“Dyna pryd ddaeth fy mawd i ffwrdd. Wna i byth anghofio’r dyddiad hwnnw.

“Ro’n i’n defnyddio’r llif i dorri rhyw glamp o bren, rhywbeth dwi wedi gwneud droeon o’r blaen, pan ddaeth o oddi ar y clamp.

“Fe wnes i estyn am y pren gyda fy llaw dde, tra’n dal i lifio gyda fy llaw chwith, heb feddwl.

“Mewn llai nag eiliad roedd fy mawd i ffwrdd.

“Roedd yn boenus, ond ddim mor boenus ag y byddwn i wedi dychmygu.

“Mae’n debyg mai’r adrenalin oedd yn gyfrifol am hynny. Ro’n i’n chwysu llwythi.

“Doedd dim llawer o waed, er mawr syndod i mi.

“Cefais wybod mai’r rheswm am hynny oedd am ei fod yn doriad mor lân.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai wedi bod yn gwaedu dros bob man.

“Fe dreuliais i 10 munud yn chwilio amdano ar y safle, ond doeddwn i methu ei ffeindio.

“Yna meddyliais y gallai fod y tu mewn i’r llif. Edrychais, ac roedd o yno. Doeddwn i methu ei gael allan; felly roedd rhaid i fi fynd ag e gyda fi.”

‘Dechrau edrych fel bawd eto’

Ar ôl i’r bawd gael ei ailgysylltu, bu’n rhaid i Arwel Davies aros i weld a fyddai’n aros yn ei le.

“Roedden nhw’n dweud nad oedd yn debygol o aros yn ei le, oherwydd cyflwr y bawd.

“Ond fe wnaethon nhw waith ffantastig.

“Dwi wedi dechrau teimlo eto ac mae’n dechrau edrych fel bawd eto nawr.”

“Lot yn y fantol”

Er i Arwel Davies fynd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin i ddechrau, cafodd ei drosglwyddo i Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys.

Yno daeth o dan ofal arbenigol y llawfeddyg plastig ymgynghorol Thomas Bragg a’i dîm, a hwnnw’n dweud bod “lot yn y fantol”.

“Anafiadau fel hyn yw rhai o’r rhai mwyaf erchyll yn aml, oherwydd y rôl mae’r bawd yn ei chwarae,” meddai.

“Mae saer ifanc yn dibynnu ar ei fawd er mwyn gwneud ei waith, felly roedd lot yn y fantol.

“Rydyn ni i gyd wrth ein boddau gyda’r canlyniadau ac rydym yn rhagweld y bydd Mr Davies dychwelyd i’r gwaith yn y dyfodol agos.”