Mae’r swyddogion ar gyfer Clwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon 2022-2023 wedi eu hethol yng nghyfarfod blynyddol y clwb.

Non Griffith yw’r Cadeirydd, Alaw Morgan yw’r Is-gadeirydd, Anest Jones yw’r Trysorydd, Sioned Jones yw’r Trefnydd Rhaglen, Mari Jones yw’r Ysgrifennydd a Dewi Pierce yw’r Arweinydd.

Mae hi’n golygu ail flwyddyn i Non Griffth y Cadeirydd, ac mae Alaw Morgan yr is-gadeirydd yn gwneud y swydd am y tro cyntaf.

Maen nhw i gyd yn rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc, ond yn amrywio o ran eu profiad.

Yn ôl Non Griffith, un o’r heriau mwyaf yw ceisio cael pobol i ddod i’r clwb.

Dydy pobol ddim yn awyddus i ddod i rai nosweithiau. neu ddim efo amser.

Her arall maen nhw wedi’i chael yw Covid-19.

Roedd rhaid rhoi terfyn ar y clwb dros dro oherwydd Covid, ac maen nhw wedi cael trafferth ailgydio yn eu pethau.

‘Cenhedlaeth hollol wahanol rŵan’

Yn ôl Non Griffith, mae Clwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon wedi datblygu.

“Mae’n genhedlaeth hollol wahanol rŵan, mae llawer o bethau wedi newid ers i mi ymuno,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n 22 oed rŵan, ac roeddwn yn 14 oed yn ymuno.

“Mae mwy o gyfrifiaduron rŵan ac rydym wedi barnu [cystadlaethau] dros Zoom.”

Er hynny mae llawer o bethau wedi aros yr un fath.

“Roedd llawer o gystadlaethau pan oeddwn i’n [cychwyn] mynd, pŵl a dartiau.

“Roeddem yn mynd o gwmpas clybiau gwahanol.

“Rydym dal i fynd o gwmpas clybiau gwahanol rŵan.

“Yr uchafbwynt yw cael mynd i’r Eisteddfod a chael mynd i ralis.

“Mae rali fawr sydd yn ffermydd pobol wahanol bob blwyddyn.

“Cyn y rali, mae gweithgareddau gwahanol.

“Mae’n uchelgais gan bawb mewn clybiau ar draws Eryri i guro cystadlaethau.

“Wnes i ymuno yn 14 oed.

“Roedd o’n in thing yn yr ysgol ac roeddech yn ymuno ym mlwyddyn 7.

“Ni fyddwn yn y swydd rwyf ynddi rŵan oni bai am y Ffermwyr Ifanc.

“Mae o’n rhoi gymaint o hyder i blant.

“Mae llawer o brofiadau rwyf wedi cael efo ffermwyr ifanc wedi bod yn dda i fi.

“Mae yna gystadleuaeth siarad cyhoeddus, mae hynny wedi bod o gymorth.

“Mae clwb Ffermwyr Ifanc yn ffordd dda i bobol sydd ddim o gefndir ffarmio ddysgu am amaethyddiaeth.

“Rydych yn gallu cael arian i brynu anifail, ei werthu a gwneud elw.

“Mae oed [cael aros yn aelod o glwb] Ffermwyr Ifanc wedi codi o 26 i 30.

“Gall y bobol ifanc weld y bobol hŷn a meddwl: ‘Fel yna dwi eisiau bod’.”

Mae clwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon yn cwrdd yn y neuadd ym mhentref Bethel ar nos Lun am 7.30. Weithiau bydd gweithgareddau tu allan yn lle.

Os oes gennych ddiddordeb ymuno â chlwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon ewch i dudalen Instagram cfficaernarfonyfc neu’r tudalen Facebook  Clwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon.