Mae angen cyfeirio mwy o arian at wasanaethau rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwy mynd i’r afael â rhestrau aros Cymru, yn ôl Cyngor Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain.
Daw hyn wedi i 33 o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw arno i weithredu dros brinder y gweithlu.
Daw’r llythyr ar y cyd yn sgil cyhoeddi’r ffigyrau amseroedd aros diweddaraf yng Nghymru – sef y rhai mwyaf araf ar gofnod.
Ddoe (dydd Iau, Tachwedd 18), fe gyhoeddodd Jeremy Hunt £1.2bn yn ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn ei Ddatganiad Hydref.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio ei fod yn wynebu diffyg o £4bn yn y gyllideb.
‘Ddim digon da’
“Rwy’n siarad ar ran meddygon yng Nghymru pan dw i’n dweud, yn syml, nad yw’r ffigyrau yma’n ddigon da,” meddai Dr Iona Collins, cadeirydd Cyngor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain.
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cronfeydd ychwanegol i fyrddau iechyd, yn benodol i fynd i’r afael ag ôl-groniad ychwanegol y rhestrau aros, ond nid yw’r arian yn ddigon, gyda byrddau iechyd yn gorwario ar eu cyllidebau wrth geisio’u gorau i leihau’r rhestrau aros.
“Mae angen cyfeirio mwy o arian at wasanaethau rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwaldol, fel y gallwn fynd i’r afael â’r rhestrau aros gwaethaf ar record ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i drefnu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Mae angen staff rheng flaen ac adnoddau ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwaldol i ddarparu’r gofal sydd ei angen arnom pan fyddwn yn sâl.
“Mae angen i ni gydnabod ac unioni’r diffyg adnoddau yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru o’i gymharu â gwasanaethau gofal iechyd mewn mannau eraill.”