Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi cadarnhau bod y Deyrnas Unedig bellach mewn dirwasgiad, wrth iddo amlinellu cynlluniau ariannol Llywodraeth San Steffan yn ei Gyllideb Hydref.

Daw hyn wrth i’r ffigyrau swyddogol ragweld y bydd yr economi’n crebachu 1.4% y flwyddyn nesaf.

Ac yn dilyn y llanast gafodd ei greu gan Liz Truss a’i Changhellor Kwasi Kwarteng, mae Jeremy Hunt dan bwysau i adfer hygrededd a sefydlogrwydd economaidd y Deyrnas Unedig.

Dywedodd pedwerydd Canghellor y flwyddyn ei fod yn darparu “llwybr cytbwys i sefydlogrwydd”, sy’n cynnwys “gwneud penderfyniadau anodd” i lenwi’r hyn sydd wedi’i ddisgrifio fel “twll du” ariannol o £55bn i gadw cyfraddau morgeisi mor isel â phosib ac i fynd i’r afael â phrisiau ynni.

Wrth agor ei Ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin, rhybuddiodd nad yw “unrhyw un sy’n dweud bod atebion hawdd yn bod yn strêt gyda phobol Prydain”.

Beth am gymryd cipolwg ar y mesurau gyhoeddodd y Canghellor, felly.

Cymru

Fe gyhoeddodd Jeremy Hunt £1.2bn yn ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio ei fod yn wynebu diffyg o £4bn yn y gyllideb.

Un sydd heb ei hargyhoeddi gan Ddatganiad y Canghellor yw Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Treth

Dywedodd Jeremy Hunt y byddai ei gyllideb yn “gofyn mwy gan y rhai sydd â mwy” wrth iddo gyhoeddi y bydd y trothwy treth gyfradd incwm o 45c yn gostwng o £150,000 i £125,140.

Mae hyn yn golygu y bydd y rhai sy’n ennill £150,000 neu fwy yn talu ychydig dros £1,200 yn fwy bob blwyddyn, meddai.

Cyhoeddodd Jeremy Hunt na fydd cerbydau trydan bellach yn cael eu heithrio o Ddyletswydd Tollau Cerbydau o Ebrill 2025, er mwyn gwneud y system dreth foduro yn “decach”.

Mewn mannau eraill ar ynni, dywedodd y Canghellor y bydd yn cynyddu’r Ardoll Elw Ynni o 25% i 35% ac yn gosod ardoll 45% ar eneraduron trydan i godi amcangyfrif o £14bn y flwyddyn nesaf.

Gwaith, pensiynau a budd-daliadau

Cadarnhaodd Jeremy Hunt y bydd yn amddiffyn y clo triphlyg pensiynau.

Bydd y Trysorlys yn cynyddu budd-daliadau oedran gweithio ac anabledd yn unol â chwyddiant, gyda chynnydd o 10.1%, yn costio £11bn.

Mae hefyd wedi derbyn argymhelliad i gynyddu’r cyflog byw cenedlaethol o 9.7%, gan olygu y bydd y gyfradd fesul awr yn £10.42 o Ebrill 2023.

Addysg

Cyhoeddodd y Canghellor y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £2.3bn ychwanegol y flwyddyn mewn ysgolion am y ddwy flynedd nesaf.

Fodd bynnag, gwrthododd alwadau i roi TAW ar ffioedd ysgolion annibynnol gan ddweud bod rhai amcangyfrifon yn credu y gallai arwain at hyd at 90,000 o blant o’r sector annibynnol yn symud i ysgolion gwladol, gan ychwanegu byddai’n gyfystyr â “rhoi â’r naill law a chymryd i ffwrdd â’r llall.”

Tai

Ar fater tai, dywedodd Jeremy Hunt y bydd yn rhoi cap ar y cynnydd mewn rhenti cymdeithasol ar uchafswm o 7% yn 2023/24, gan arbed £200 i’r tenant cyffredin y flwyddyn nesaf.

Bydd y toriadau treth stamp gafodd eu cyhoeddi yng nghyllideb fach ei ragflaenydd yn aros yn eu lle – ond dim ond tan Fawrth 31, 2025 wrth iddo ddweud bod yr OBR yn disgwyl i weithgaredd tai arafu dros y ddwy flynedd nesaf.

Cymorth costau byw

“Bydd y cynllun gwarantu prisiau ynni yn cynyddu o £2,500 i’r cartref cyffredin i £3,000 am 12 mis o fis Ebrill ymlaen,” meddai Jeremy Hunt.

Fe fydd y Llywodraeth yn cyflwyno taliadau ychwanegol ar gyfer costau byw i’r “rhai mwyaf bregus” gyda £900 i’r rhai ar fudd-daliadau, £300 i bensiynwyr a £150 i’r rhai sydd ar fudd-dal anabledd.

Egni

Mae’r ffaith fod Vladimir Putin wedi “arfogi” prisiau nwy rhyngwladol wedi helpu i “yrru cost ein defnydd o ynni cenedlaethol i fyny”.

“Eleni fe fyddwn ni’n gwario £150bn yn ychwanegol ar ynni… sy’n cyfateb i dalu am ail Wasanaeth Iechyd Gwladol drwy ein biliau ynni,” meddai.

Datgelodd y Canghellor gynlluniau ar gyfer atomfa newydd y mae’n honni fydd yn creu 10,000 o swyddi, tra’n darparu carbon isel, rhad.

“Mae’n cynrychioli’r cam mwyaf i’n taith o ran annibyniaeth ynni,” meddai.

Amddiffyn

Ymrwymodd Jeremy Hunt i barhau i gynnal y gyllideb amddiffyn ar “o leiaf 2% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth”.

Dywedodd y Canghellor wrth Dŷ’r Cyffredin ei fod ef a’r Prif Weinidog “ill dau yn cydnabod yr angen i gynyddu gwariant amddiffyn”, gan ychwanegu: “Ond cyn i ni wneud yr ymrwymiad hwnnw mae angen adolygu a diweddaru’r Adolygiad Integredig, a ysgrifennwyd cyn dechrau’r rhyfel yn Wcráin.

“Rwyf wedi gofyn i’r gwaith hanfodol hwnnw gael ei gwblhau cyn y Gyllideb nesaf a heddiw yn cadarnhau y byddwn yn parhau i gynnal y gyllideb amddiffyn o leiaf 2% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth i fod yn gyson â’n hymrwymiad Nato.”

Cymorth Tramor

“Mae rhagolygon yr OBR yn dangos sioc sylweddol i gyllid cyhoeddus felly ni fydd modd dychwelyd i’r targed o 0.7% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth nes y bydd ein sefyllfa gyllidol yn caniatáu,” meddai’r Canghellor o ran cymorth tramor.

“Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i’r targed ac mae’r cynlluniau yr wyf wedi’u nodi heddiw yn tybio y bydd gwariant ar gymorth tramor yn parhau i fod yn tua 0.5% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth.”