Mae datganiadau yn San Steffan gan gyn-Ysgrifennydd Amaeth y Deyrnas Unedig yn cadarnhau bod cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi rhoi mynediad enfawr i farchnadoedd bwyd y Deyrnas Unedig yn gyfnewid am fuddion cymharol ddibwys.

Wrth siarad ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 17), dywedodd George Eustice wrth aelodau seneddol fod y Deyrnas Unedig wedi “rhoi llawer gormod i ffwrdd yn gyfnewid am ychydig iawn”, er gwaethaf dechrau trafodaethau “gyda’r dylanwad cryfaf posib”.

Honodd hefyd fod y trafodwyr wedi cael eu tanseilio gan y cyn-Brif Weinidog Liz Truss, pan fynnodd fod cytundeb gydag Awstralia yn cael ei daro cyn uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw fis Mehefin y llynedd.

“Mae Mr Eustice wedi cadarnhau popeth y mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi’i ddweud am y cytundeb hyn,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Roedd y wedd bositif a roddwyd gan Boris Johnson, Gweinidogion ac aelodau seneddol ynghylch y cytundebau hyn ar y pryd yn nonsens llwyr.

“Yr hyn a wyddom o’r cychwyn ac wedi ei ddatgan yn glir yw bod y cytundebau hyn yn bradychu ffermwyr a diogelwch cyflenwad bwyd y Deyrnas Unedig, a hynny yn gyfnewid am fawr ddim.

“Rhoddodd y Deyrnas Unedig fynediad enfawr a chyflawn i’n marchnadoedd cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth yn gyfnewid am fuddion pitw iawn, a’r cyfan oll er mwyn cwrdd â therfynau amser ar gyfer datganiadau i’r wasg sy’n fuddiol yn wleidyddol.”

‘Rhwydd hynt’

Dywedodd George Eustice hefyd wrth San Steffan fod trafodwyr Awstralia wedi cael rhwydd hynt i “siapio telerau” y cytundeb, a galwodd am ddiswyddo pennaeth yr Adran Masnach Ryngwladol, gan ddweud ei fod nawr yn “gyfle da i symud ymlaen a chael math gwahanol o drafodwr – rhywun sy’n deall buddiannau Prydain yn well”.

Dywed Glyn Roberts fod y cytundebau yn cael eu cydnabod ledled y byd fel rhai hynod o wan a bod y Deyrnas Unedig yn destun sbort ar y llwyfan rhyngwladol.

“Nid oes gan ASau sy’n parhau i amddiffyn y cytundebau hyn yr un goes i sefyll arni bellach gan fod y gwir wedi ei roi i’r Senedd gan ‘lygad y ffynnon’,” meddai.

Dywed y dylai trefn newydd San Steffan sicrhau bod unrhyw gytundebau yn y dyfodol gyda gwledydd a blociau masnachu eraill yn cymryd agwedd llawer mwy cadarn sy’n amddiffyn ein ffermwyr a’n cyflenwad bwyd, nid eu tanseilio.

“Mae sefyllfa fregus ein diogelwch bwyd wedi’i wneud yn glir gan ryfel Rwsia yn erbyn yr Wcráin, ac mae angen i’r Deyrnas Unedig ailosod ei hagwedd at fasnach ryngwladol yn unol a galwad Undeb Amaethwyr Cymru yn ein cynllun pum pwynt a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2022,” meddai.