Mae yna ymateb cymysg wedi bod i Ddatganiad Hydref Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan.
Dywedodd pedwerydd Canghellor y flwyddyn ei fod yn darparu “llwybr cytbwys i sefydlogrwydd”, sy’n cynnwys “gwneud penderfyniadau anodd” i lenwi’r hyn sydd wedi’i ddisgrifio fel “twll du” ariannol o £55bn i gadw cyfraddau morgeisi mor isel â phosib ac i fynd i’r afael â phrisiau ynni.
Dyw hi “ddim yn syndod ein bod ni am gael y dirwasgiad”, yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor.
Un o’r cyhoeddiadau cyntaf wnaeth Jeremy Hunt oedd cadarnhau bod y Deyrnas Unedig bellach mewn dirwasgiad, wrth iddo amlinellu cynlluniau ariannol Llywodraeth San Steffan.
Daw hyn wrth i’r ffigyrau swyddogol ragweld y bydd yr economi’n crebachu 1.4% y flwyddyn nesaf.
Ac yn dilyn y llanast gafodd ei greu gan Liz Truss a’i Changhellor Kwasi Kwarteng, mae Jeremy Hunt dan bwysau i adfer hygrededd a sefydlogrwydd economaidd y Deyrnas Unedig.
“Dw i’n meddwl fod pawb, cyn y Datganiad, yn derbyn fod hynna yn mynd i ddigwydd,” meddai wrth golwg360.
“Rŵan, roedd Jeremy Hunt mewn sefyllfa galed, mae ganddo’r fiscal black hole yma i’w lenwi, ac mae hynna yn rhywbeth anodd iawn i’w wneud pan mae’r economi’n arafu.
“Oherwydd beth mae hynny yn ei olygu ydi y bydd busnesau yn gwneud llai o elw ac felly’n talu llai o dreth, mae hi’n debyg y byddwn ni’n gweld diweithdra’n codi.
“I fod yn onest, dw i ddim yn siŵr beth arall fysa Jeremy Hunt wedi gallu ei wneud heddiw.
“Dw i’n gweld ei fod o wedi cyhoeddi cynnydd yn y windfall tax eto.
“Mae gen i fy amheuon os ydi windfall tax yn gweithio’n effeithiol, does yna ddim tystiolaeth i awgrymu ei fod o’n dreth effeithiol mewn gwledydd eraill.
“Ond dw i yn deall pam ei fod o’n ei wneud o, mae o’n easy picking mewn ffordd.
“Dw i ddim yn credu fod yna sioc wedi bod heddiw, dw i wedi edrych ar sut mae’r marchnadoedd wedi ymateb a dydyn ni ddim wedi gweld ymateb fel y cawson ni efo’r mini-budget.
“Felly, ia, yn anffodus mi fydd hi’n ddirwasgiad y flwyddyn nesaf ac os ydi pobol yn cael codiad cyflog, fe fyddan nhw’n talu mwy o dreth ac felly ddim yn teimlo effaith llawn y codiad cyflog hwnnw.”
Croeso gofalus i arian ychwanegol Cymru
Mae’r £1.2bn yn ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael croeso gofalus gan Dr Edward Jones.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio eu bod yn wynebu diffyg o £4bn yn y gyllideb.
“Wrth gwrs rydan ni’n croesawu’r arian ychwanegol, ond o ystyried y chwyddiant rydan ni wedi’i weld, be’ sy’n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono ydi – yr un fath i fusnesau, pobol a llywodraethau – mae’r arian rydan ni’n ei gael yn prynu llai,” meddai.
“Felly i Lywodraeth Cymru allu parhau i ddarparu’r un math o wasanaeth, maen nhw angen mwy o arian.
“Mae’n rhaid i ni gofio fod yna sawl problem economaidd yng Nghymru lle rydan ni angen mwy o arian i fynd i’r afael â nhw, ac felly mi fyddai wedi bod yn dda cael mwy na’r ffigwr £1.2bn yna.
“Mi fysa hi wedi bod yn anodd i Jeremy Hunt gynnig £4bn o ystyried y sefyllfa mae o’n ei hwynebu.
“Yn sicr, dw i’n derbyn yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud efo’r ffigwr £4bn yna, ond eto dw i ddim yn siŵr faint o le oedd gan Jeremy Hunt i symud ar y mater.”
Addysg
“Roeddwn i’n gweld fod Jeremy Hunt yn ceisio cefnogi addysg,” meddai wedyn.
“Wel, mae hyn wedi bod yn broblem ers peth amser.
“Rydan ni angen cael buddsoddiad gwell mewn addysg, yr human capital yma mewn ffordd, er mwyn i bobol sy’n mynd mewn i’r gweithlu allu cynhyrchu mwy a helpu’r economi i symud ymlaen.”
‘Torri ein trwyn i sbeitio ein hwyneb’
Un sydd heb ei hargyhoeddi gan Ddatganiad y Canghellor yw Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Dywed mai prif amcanion y gyllideb yw cadw’r Blaid Geidwadol “at ei gilydd” a cheisio lliniaru sgil effeithiau camgymeriadau blaenorol y blaid, a bod y Canghellor yn arddangos “compassionate conservatism“.
“Ond y gwir plaen ydi fod y Ceidwadwyr wedi bod mewn grym ers 2010 ac maen nhw wedi torri’r holl wasanaethau sy’n cynnal y bobol fwyaf bregus,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl mai dwy flaenoriaeth y gyllideb hon o dan y wyneb ac nid i’w rhoi gerbron y cyhoedd oedd, yn gyntaf, i ddal ei blaid ei hun at ei gilydd o ran y cydbwysedd rhwng codi trethi a thoriadau.
“Yr ail beth oedd bod yn rhaid iddo wneud yn iawn am sgil effeithiau’r gyllideb ddiwethaf yn ôl ym mis Medi, megis y cynnydd yn y llog sy’n rhaid ei dalu ar fenthyciadau cyhoeddus.
“Roedd yn rhaid iddo fodloni’r marchnadoedd er mwyn peidio gwaethygu’r sefyllfa.
“Felly mae o’n trio gwneud yn iawn am y camgymeriadau enbyd gafodd eu gwneud gan Liz Truss ac yn ail gan y fath o Brexit mae’r Ceidwadwyr wedi’i mynnu ein bod ni’n dilyn sydd hefyd yn gwneud niwed i’n heconomi ni.
“Ac mae Brexit fel petai o’n rywbeth chewch chi ddim sôn amdano.
“Dydy’r BBC ddim yn sôn amdano fo, dydy’r Llywodraeth ddim yn sôn amdano fo.
“Maen nhw’n sôn amdano fo’n breifat, ond dydyn nhw methu cyfaddef eu bai eu hunain oherwydd eu bod nhw wedi dweud y ffasiwn gelwydd wrth bawb sy’n byw ym Mhrydain, boed nhw wedi pleidleisio am Brexit ai pheidio.
“Dw i’n mynnu fod y ffaith ein bod ni wedi gwrthod aros yn y farchnad sengl na’r undeb dollau wedi golygu ein bod ni wedi torri ein trwyn i sbeitio ein hwyneb.”
‘Un o wledydd mwyaf anghyfartal y byd’
Rhan amlwg o gyllideb Jeremy Hunt oedd cyhoeddi fod y Trysorlys yn bwriadu cynyddu budd-daliadau oedran gweithio ac anabledd yn unol â chwyddiant, gyda chynnydd o 10.1%, yn costio £11bn.
Mae hefyd wedi derbyn argymhelliad i gynyddu’r cyflog byw cenedlaethol o 9.7%, gan olygu y bydd y gyfradd fesul awr yn £10.42 o Ebrill 2023.
Ond yn ôl Liz Saville Roberts, fe fyddai “wedi bod yn annynol iddo fo wneud fel arall”.
Mae hi o’r farn y dylai’r gyllideb fod wedi gwneud mwy i drethu’r bobol gyfoethocaf yn y Deyrnas Unedig.
“Mae o wedi osgoi gwneud rhai o’r pethau sylfaenol y byddai o wedi gallu eu gwneud,” meddai.
“Mae o’n sôn ei fod o wedi codi trethi i bawb, ond hefyd i’r bobol fwyaf cyfoethog.
“Wel mewn gwirionedd, ychydig iawn mae symud y raddfa treth uchaf i £125,000 yn mynd i’w wneud o ran cyrraedd lle mae’r cyfoeth mwyaf ym Mhrydain.
“Rhaid cofio ein bod ni’n un o wledydd mwyaf anghyfartal y byd gorllewinol.
“Mae’r hyn mae o wedi’i wneud efo’r taliadau dividends a’r lwfans personol, pittance mae hynny yn mynd i’w godi mewn gwirionedd.”
Ymatebion eraill
“Mae Datganiad yr Hydref hwn yn rhoi mwy o bwysau ar filiynau o bobl sydd eisoes yn cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw,” meddai Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wrth ymateb.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl drwy’r cyfnod anodd hwn – ond fe fydd pob un ohonom yn talu am gamgymeriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig am flynyddoedd i ddod.”
Yn y cyfamser fe gafodd y gyllideb groeso cynnes gan Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig.
“Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn ennyn sefydlogrwydd yn economi’r Deyrnas Unedig yn wyneb pwysau byd-eang cynyddol fel y’u dilysu gan yr OBR,” meddai.
“O ganlyniad i ryfel Putin yn Wcráin, mae chwyddiant cynyddol yn mynd â’i doll ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn anffodus.
“Rwy’n falch o’r gefnogaeth bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig dosturiol hon yn gwarantu cefnogaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig – gan sicrhau bod budd-daliadau a phensiynau yn codi’n unol â chwyddiant fel y galwr amdano gan y Ceidwadwyr Cymreig.
“Bydd hyn, ynghyd â’r gefnogaeth hanesyddol ar gyfer costau ynni, yn parhau i sicrhau bod pobl Cymru’n cael eu hamddiffyn rhag gwaethaf hinsawdd economaidd fyd-eang.”
Fodd bynnag, dydy Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, ddim wedi’i hargyhoeddi.
“Nid yw’r llanast rydyn ni ynddo yn ganlyniad i 12 wythnos o anhrefn y Ceidwadwyr yn unig, ond 12 mlynedd o fethiant economaidd y Ceidwadwyr,” meddai.
“Ac mae popeth maen nhw’n ei gynnig heddiw yn rhagor o’r un peth – gyda phobol sy’n gweithio’n galed yn talu’r pris am eu methiant.
“Mae cyllideb Llywodraeth Cymru’r flwyddyn nesaf werth £1.5bn yn llai nag yr oedd pan osododd y Torïaid hi ym mis Tachwedd y llynedd, felly mae canlyniadol Barnett o £1.2bn a addawyd heddiw yn dal i adael Cymru yn llawer gwaeth ei fyd.
“Mae Llafur yn gwybod bod dewisiadau tecach i’w gwneud, a bod yr hyn sydd ei angen ar ein gwlad yn gynllun hirdymor i sicrhau bod ein heconomi yn tyfu eto.”