Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar deuluoedd, mae ysgolion ledled Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi eu cymunedau lleol.

Mae canllawiau newydd wedi’u lansio heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 18) i helpu ysgolion i ddatblygu i fod yn Ysgolion Bro.

Mae Ysgol Fro yn un sy’n meithrin partneriaeth gref â theuluoedd, yn ymateb i anghenion ei chymuned, ac yn cydweithio’n effeithiol â gwasanaethau eraill.

Fis Mawrth eleni, cyhoeddodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, ei fod yn buddsoddi bron i £25m yn y gwaith o ddarparu Ysgolion Bro – i ariannu ffyrdd ymarferol o wella cyfleusterau ysgolion, er mwyn i’r gymuned allu gwneud gwell defnydd ohonyn nhw.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod lle i storio cyfarpar ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n cynnal gweithgareddau allgyrsiol, a gwella’r goleuo allanol ar gyfer mannau chwaraeon.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei neilltuo i awdurdodau lleol ledled Cymru gan ddefnyddio fformiwla sy’n seiliedig ar niferoedd disgyblion ac ysgolion.

Menter ‘Room to Grow’

Un ysgol sydd eisoes yn helpu eu cymuned leol yw Ysgol Gynradd Blaenymaes yn Abertawe.

Mae’r ysgol wedi sefydlu Cyngor Rhieni er mwyn cael persbectif rhieni o’r hyn sydd eu hangen o ran cymorth i rieni a gweithio mewn partneriaeth.

Yn ogystal â hynny, roedd yr ysgol wedi parhau i feithrin cysylltiadau da â Chymdeithas Dai Pobl Abertawe a arweiniodd at wahodd grwpiau cymunedol, fel ‘Room to Grow’ a Fferm Gymunedol Abertawe, i gynnal gweithgareddau i’r disgyblion a’u teuluoedd.

Nod menter ‘Room to Grow’ yw dysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar deuluoedd i dyfu cynnyrch eu hunain gartref – gan y gallai hynny helpu iddynt ymdopi â chostau cynyddol bwydo’r teulu.

Felly, mae’r disgyblion a’u teuluoedd, yn cymryd rhan mewn sesiynau ar dir yr ysgol.

Mae’r sesiynau hynny’n cynnwys adeiladu potiau a blychau i blannu planhigion, a darperir y deunyddiau a’r offer sydd eu hangen er mwyn iddynt dyfu cynnyrch eu hunain gartref.

Mae sesiynau “Dewch i goginio gyda mi”, yn cael eu cynnal yn yr ysgol gan Helen Spencer, Swyddog Cynhwysiant Teuluol, sy’n cynnig cyfle i deuluoedd ddysgu sut i goginio ryseitiau blasus ac iach ar gyllideb.

Caiff pob rysáit a’r holl gynhwysion eu darparu i deuluoedd fel y gallan nhw eu coginio gartref.

Yn ogystal, mae offer coginio nad oedd ganddyn nhw gartref wedi’i roi i’r grŵp, fel cloriannau digidol a llwyau mesur.

Cysylltiad cymunedol

“Trwy ymgysylltu â’n Cyngor Rhieni, roedd yn amlwg bod rhieni yn cael budd o’r cymorth a oedd yn cael ei roi iddyn nhw i’w helpu i gefnogi dysgu eu plentyn,” meddai Emma Amirat, Dirprwy Bennaeth dros dro Ysgol Gynradd Blaen-y-maes.

“Ond roedden nhw’n wynebu heriau a oedd yn destun pryder iddyn nhw y tu allan i oriau’r diwrnod ysgol hefyd.

“Felly, daethon ni i’r casgliad fod angen inni ddatblygu cysylltiadau gwell â grwpiau cymunedol, er mwyn inni wella ein gallu i gefnogi teuluoedd mewn ffordd integredig.

“Mae’r ffordd hon o gydweithio wedi golygu y gallwn ni wahodd grwpiau, fel ‘Room to Grow’ a Fferm Gymunedol Abertawe, i’n hysgol i gynnig cyfleoedd pwrpasol i deuluoedd.

“Mae gwrando ar ein Cyngor Rhieni yn sbardun allweddol i’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i deuluoedd.

“Ac ar hyn o bryd, rydyn ni wrthi’n datblygu cynlluniau i ddarparu siopau cyfnewid eitemau i deuluoedd a all helpu i gynnig atebion i ddelio â chostau gwisg ysgol a thlodi tanwydd.”

Troi gweledigaeth yn realiti

“Mae Ysgolion Bro yn cysylltu teuluoedd, ysgolion, a chymunedau â’i gilydd,” meddai Jeremy Miles.

“Mae hyn yn helpu i gyflawni ffordd gydgysylltiedig o ddysgu, ac yn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau ariannol na chymdeithasol i addysg plentyn.

“Fel llywodraeth rydyn ni’n glir mai mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad sydd wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl i wella addysg yng Nghymru.

“Rwy wedi gweld o lygad y ffynnon y mentrau gwych y mae ysgolion ar hyd a lled y wlad yn eu cynnal i helpu cymuned yr ysgol a’r ardal leol.

“Ac mae ein canllawiau newydd ar gyfer Ysgolion Bro yn cyflwyno cyngor a gwybodaeth i helpu ysgolion i droi eu gweledigaeth yn realiti.”