Bydd myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd yn dysgu’r sgiliau i allu trin cleifion yn y Gymraeg.

Mae hyn yn rhan o’r rhaglen beilot gyntaf o’i math sy’n ceisio gwella lles, canlyniadau meddygol a dealltwriaeth cleifion mewn ysbytai ledled Cymru.

Bydd pob myfyriwr meddygol yn eu hail flwyddyn yn cael hyfforddiant gorfodol ar gyfathrebu yn y Gymraeg er mwyn dysgu’r sgiliau i allu trin cleifion Cymraeg eu hiaith pan fyddan nhw ar leoliad gwaith mewn ysbyty.

“Dangoswyd bod trin cleifion yn eu hiaith gyntaf yn gwella eu canlyniadau ac yn eu helpu hefyd i ddeall eu triniaeth yn well,” meddai Sara Vaughan, Rheolwr Datblygu’r Gymraeg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

“Rydym yn gwybod y gall cyfarch cleifion yn y Gymraeg fod o fudd nid yn unig i’r claf ond i’r myfyriwr ar leoliad gwaith, hefyd.

“Mae strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru’n mynnu bod cleifion yn cael cynnig triniaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na gorfod gofyn amdani.

“Nod y fenter hon yw cyflawni’r weledigaeth honno a pharatoi ein myfyrwyr ar gyfer gweithio yn y lleoliadau dwyieithog y mae Cymru gyfan yn eu cynnig a’u mynnu.

“Bydd ein hyfforddiant ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn datblygu hyfedredd y genhedlaeth nesaf o feddygon a fydd yn gwasanaethu pobol Cymru.

“Drwy wneud hyfforddiant o’r fath yn rhan o’n cwricwlwm, y gobaith yw y bydd gan bob myfyriwr meddygol sy’n graddio o Brifysgol Caerdydd y sgiliau sy’n eu galluogi i drin cleifion yn y ffordd orau mewn gwlad wirioneddol ddwyieithog.”

Y rhaglen

Ers 2015, mae myfyrwyr meddygol y Brifysgol wedi gallu astudio ar gyfer eu gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy wneud hynny maen nhw’n dysgu’r sgiliau i allu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn sefyllfa feddygol broffesiynol.

Mae’r rhaglen newydd yn ei gwneud yn ofynnol datblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg yn rhan o gwricwlwm yr Ysgol, fydd yn addysgu sgiliau i bob myfyriwr mae modd eu defnyddio yng nghwmni eu cleifion.

Yn rhan o’r rhaglen beilot, gall myfyrwyr ddewis bod yn rhan o’r ffrydiau rhugl, heb-fod-yn-rhugl a di-Gymraeg, sy’n golygu y bydd eu hyfforddiant wedi’i deilwra’n briodol.

Yn rhan o’r hyfforddiant, mae actorion hyfforddedig yn helpu i greu senarios ffug, er mwyn profi sgiliau trin a sgiliau Cymraeg y myfyrwyr.

“Ar ôl symud i Gymru i fynd i’r brifysgol, sylweddolais pa mor gyffredin yw’r Gymraeg a pha mor bwysig yw rhoi’r opsiwn i gleifion Cymraeg eu hiaith dderbyn gofal yn eu mamiaith,” meddai’r fyfyrwraig Hannah Rossiter.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn gwella’r berthynas rhwng y claf a’r meddyg, gan gynnwys canlyniadau clinigol.”

Mae’r Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y rhaglen beilot hon yn dod yn rhan sefydledig o hyfforddiant meddygol erbyn 2023.

“Rydym yn gwybod derbyn gofal gan rywun sy’n cydnabod ac – o bosibl – yn siarad eich mamiaith yn arwain at ganlyniadau a boddhad gwell,” meddai Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

“Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod myfyrwyr meddygol sydd â sgiliau Cymraeg yn fwy tebygol o aros a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio.

“Nod yr hyfforddiant hwn yw gwella profiad cleifion a’u teuluoedd o ofal iechyd, lleihau gorbryder a chroesawu ein holl fyfyrwyr, a gobeithio y bydd yn annog y myfyrwyr i aros yng Nghymru er mwyn gwasanaethu ein poblogaeth ddwyieithog.”