Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion fod amserau aros y Gwasanaeth Ambiwlans ar eu hisaf am yr ail fis yn olynol a bod bron i chwarter poblogaeth Cymru ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd.
Mae 23% o bobol yng Nghymru ar restr aros ac mae 57,284 wedi bod yn aros ers dros ddwy flynedd – sy’n fwy na dwywaith y ffigwr flwyddyn yn ôl.
Hefyd ym mis Medi, arhosodd un ym mhob pedwar o gleifion dros flwyddyn am driniaeth, o’i gymharu ag un ym mhob 20 yn Lloegr.
Ar gyfartaledd, 21.8 wythnos o aros oedd gan gleifion yng Nghymru, ond dim ond 14 wythnos yn Lloegr.
Bu’n rhaid i 33.4% aros mwy na’r targed o bedair awr i gael eu gweld mewn uned frys fis diwethaf – 31% oedd y ffigwr cyfatebol yn Lloegr a’r Alban.
Dydy Cymru erioed wedi bwrw’r targed o 95% o dderbyniadau’n cael eu gweld o fewn pedair awr, gydag wyth ysbyty wedi gweld llai na 60% dros y cyfnod diwethaf, gyda Chwm Taf Morgannwg yn perfformio waethaf yng Nghymru (59%).
Ar y cyfan, fe fu’n rhaid i 11,000 o gleifion aros dros 12 awr mewn ysbytai am driniaeth, gydag oedolion dros 85 oed yn aros dros saith awr ar gyfartaledd mewn unedau brys.
Dim ond 48% o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol gafodd eu hanfon i gasglu claf o fewn wyth munud, gan guro’r record waethaf o 50% fis diwethaf. Y targed yw 65%, ond dydy hwnnw heb ei gyrraedd ers dros ddwy flynedd.
Roedd aros o fwy nag awr wrth ateb 66.7% o alwadau oren, sy’n cynnwys cleifion strôc, gyda dim ond 19% yn cyrraedd o fewn hanner awr.
Roedd ymateb ambiwlansys ar ei waethaf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (39%), a dim ond 27% gyrhaeddodd o fewn awr yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
‘Ar ymyl y dibyn’
“Pan welwn ni bron i chwarter y boblogaeth ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd, yr amserau ambiwlans arafaf ar gofnod, a’r rhestrau aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf ym Mhrydain, mae’n fwy na theg dweud bod gallu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i drin cleifion yn sefyll ar ymyl y dibyn,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae hyn oll wedi’i waethygu gan streic nyrsys sydd bron iawn ledled y wlad, a rhestr aros eilradd lle mae 460,000 yn rhagor o bobol yn aros am apwyntiadau’n dilyn eu triniaeth, sy’n amlwg yn effeithio ar les staff a chleifion.
“Yn syml iawn, dw i ddim yn deall pam fod gweinidogion Llafur yn anwybyddu’r galwadau am ganolfannau llawfeddygol ac ystafelloedd rhyfel y gaeaf i ymdrin â’r amserau aros peryglus o hir hyn pan ydyn ni’n eu gweld nhw’n arwain at gynnydd gweladwy iawn yn Lloegr.
“Ond a ddylen ni ddisgwyl gwahanol gan Lywodraeth Lafur ddywedodd y byddai’n “ffôl” cyhoeddi cynllun adferiad y Gwasanaeth Iechyd cyn i’r pandemig ddod i ben – agwedd sydd wedi ein harwain at yr union sefyllfa hon?
“Mae angen i Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhoi’r gorau i dorri pob record anghywir.”
‘Goleuadau brys yn fflachio’
“Pan fo rhywun mewn eiliad o argyfwng ac yn dewis ffonio 999, maen nhw am wybod y bydd rhywun ben arall y lein yn gallu eu helpu nhw,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Dylai’r ffigurau hyn beri i oleuadau brys fflachio ar Lywodraeth Cymru.
“Yn aml iawn, mae Llafur wedi defnyddio’r pandemig fel esgus, ond roedd gwasanaethau ambiwlans yn ei chael hi’n anodd yng Nghymru ymhell cyn Covid.
“Mae’n arbennig o warthus fod y rheiny mewn ardaloedd gwledig fel fy rhanbarth i, unwaith eto, yn teimlo baich yr argyfwng yma; yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae’n syfrdanol nad yw 61% o alwadau coch yn cael eu hateb o fewn yr amserau targed, ym Mhowys mae’n 59%.
“Yn amlach na pheidio, mae’r oedi sylweddol yn amserau ateb ambiwlansys fel arfer o ganlyniad i ôl-groniad adrannau damweiniau ac achosion brys sy’n golygu bod rhaid i gleifion aros mewn ambiwlans tu allan.
“Yr hyn mae angen i ni ei weld ydy gwir fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd sylfaenol mewn cymunedau lleol, gan gynnwys ein meddygon teulu, er mwyn atal yr ôl-groniad yma mewn adrannau brys ac i atal pobol rhag mynd mor sâl nes bod angen triniaeth frys arnyn nhw.
“Y mis yma, fe wnaethon ni ddatgelu nad yw Llafur yn bwrw’r targed o 200 o feddygon teulu y flwyddyn sydd eu hangen ar Gymru.
“Rhaid i Lafur fynd i’r afael yn well â’r argyfwng yma cyn gynted â phosib.
“Gallai gweithredu’n gyflym iawn olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.”
‘Pwysau digynsail’
Wrth ymateb, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru’n dweud bod “pwysau digynsail” ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Mewn ysbytai yn unig, cafodd mwy na 361,000 o ymgynghoriadau eu cynnal ym mis Medi,” meddai.
“Mae staff gofal sylfaenol a staff ambiwlans ac adrannau brys yn dal o dan bwysau dwys.
“Er enghraifft, ym mis Hydref gwelwyd y nifer a’r gyfran uchaf o alwadau coch lle’r oedd bywyd yn y fantol sydd ar gofnod.
“Tra ein bod ni’n cydnabod nad yw perfformiad ambiwlansys lle rydym yn disgwyl iddo fod, rydym yn gyrru gwelliannau gan gynnwys ymestyn gwasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod fel eu bod nhw ar agor saith diwrnod yr wythnos, yn rheoli galwadau’n well er mwyn lleihau derbyniadau i’r ysbyty, ac yn recriwtio rhagor o staff.
“Heb hyn oll, byddai’r pwysau ar y system yn fwy fyth.”