Mae cwmni wisgi Penderyn wedi denu Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, i fod yn llysgennad ac yn gyfranddaliwr – er nad yw’n yfed alcohol.

Yn ôl y cwmni, sydd wedi’i leoli yng nghymoedd y de, mae’r bartneriaeth yn “gyfuniad o ddau frand byd-eang”.

“Mae Gareth Bale yn llysgennad ar gyfer Cymru fel cenedl ledled y byd, ac mae Penderyn yn enwog am wisgi brag sengl o safon fyd-eang sydd wedi ennill gwobrau ac am wirodydd eraill, ac mae bellach yn cael ei ddosbarthu mewn dros 50 o wledydd,” meddai Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn.

“Rydym yn falch iawn o greu’r bartneriaeth hon wrth i ni barhau i adeiladu ein brandiau’n fyd-eang.”

Gareth Bale

Mae Gareth Bale yn chwarae i glwb Los Angeles yn yr Unol Daleithiau, ac mae e wedi ennill 108 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 40 o goliau – y nifer fwyaf erioed i’r wlad.

Yn enedigol o Gaerdydd, dechreuodd ei yrfa bêl-droed yn Southampton ar yr adeg pan oedd cwmni Penderyn yn bragu eu wisgi am y tro cyntaf.

Aeth yn ei flaen i chwarae i Spurs a Real Madrid, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr a La Liga droeon gyda chewri Sbaen.

“Mae pawb yn gwybod pa mor falch ydw i o fod yn Gymro, ac felly mae’n fraint gallu buddsoddi a dod yn llysgennad brand Cymreig mor anhygoel,” meddai.

“Ar eu pennau eu hunain, fe wnaeth Penderyn atgyfodi bragu wisgi yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw greu stori lwyddiant ryngwladol o ganlyniad i’w hangerdd am y cynnyrch a’u hymrwymiad i ansawdd.

“Mae’n destun boddhad enfawr i allu chwarae rhan yn eu llwyddiant parhaus.”

Yma O Hyd

I ddathlu tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd, mae Penderyn a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dod ynghyd i fragu wisgi Yma O Hyd ar gyfer yr achlysur.

Mae’r wisgi’n rhan o’u casgliad sy’n dathlu cewri a digwyddiadau nodedig yng Nghymru.

“Yn y dyfodol, bydd Penderyn yn cynhyrchu wisgi arbennig i ddathlu Gareth Bale ond am y tro, rydym yn dymuno pob lwc i Gareth Bale, y rheolwr Robert Page a thîm a staff Cymru yng Nghwpan y Byd.”