Fe fydd unrhyw un sy’n cael eu dal yn goryrru rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 28 (Cylchfan Pont Ebbw) ar yr M4 o heddiw (dydd Iau, Tachwedd 17) yn cael dirwy, wrth i barthau newydd 50m.y.a. gael eu sefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o gamau yn yr ardal er mwyn gwella ansawdd yr aer yno, gan mai’r rhain yw rhai o’r ffyrdd sy’n achosi’r llygredd mwyaf yng Nghymru, ac maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd yn lleihau tagfeydd ac yn gwella diogelwch ar y draffordd.

Yr ardaloedd dan sylw yw Cyffordd 5-6 yr A483 yn Wrecsam, yr A494 ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yng Nglannau Dyfrdwy, yr A470 ym Mhontypridd, Cyffyrdd 24-28 yng Nghasnewydd, a Chyffyrdd 41-42 ym Mhort Talbot.

Ers i Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniad i gyflwyno terfynau cyflymder amgylcheddol i wella lefelau ansawdd aer mewn pum lleoliad gwahanol ledled Cymru – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – mae’r lefelau nitrogen deuocsid wedi cael eu gostwng yn llwyddiannus yn yr ardaloedd hyn.

Dechreuodd y mesurau gorfodi mewn pedair o’r pum ardal fis Hydref y llynedd, ac mae heddiw’n nodi cwblhau’r ehangu hwn.

Llygredd aer yw un o’r risgiau mwyaf i iechyd yr amgylchedd yn ein cenhedlaeth, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd gyrru ar 50mya nid yn unig yn ein helpu ni i gyd i amddiffyn ein teuluoedd rhag salwch difrifol fel clefyd y galon, canser yr ysgyfaint ac asthma, ond mae hefyd yn helpu i reoli tagfeydd, gwella amserau teithio a lleihau damweiniau.

‘Cynnydd sylweddol’

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach erbyn hyn,” meddai Lee Waters, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd, ond mae angen i ni wneud pethau’n wahanol a bod yn fentrus i gael unrhyw obaith o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae’n amlwg bod y terfynau cyflymder rydyn ni wedi’u cyflwyno ar ein ffyrdd mwyaf llygredig yn gweithio – mae’r canlyniadau’n dangos hynny’n glir – ond mae cydymffurfio â’r terfynau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni’r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl.

“Mae angen i ni weithredu nawr i wneud Cymru’n lle diogel i fyw gydag aer glân i bawb.”

‘Dyfodol glanach, iachach a mwy diogel’

“Mae’r terfynau cyflymder amgylcheddol o 50m.y.a. yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â llygredd ar rai o ffyrdd mwyaf llygredig Cymru, gan helpu Cymru a’i chymunedau i adeiladu dyfodol glanach, iachach a mwy diogel,” meddai’r Uwch Arolygydd Michael Richards o Heddlu Gwent.

“Mae pob un o’r pedwar Heddlu yng Nghymru yn cefnogi camau gorfodi’r terfynau cyflymder hyn.”

Mudiad arall sy’n cefnogi’r camau yw Partneriaeth GanBwyll.

“Mae GanBwyll yn cefnogi’r terfynau cyflymder amgylcheddol o 50mya yn llawn,” meddai’r rheolwr Teresa Ciano.

“Yn ogystal â lleihau lefelau NO2 ac adeiladu amgylcheddau glanach ar gyfer ein cymunedau, bydd y parthau hyn yn helpu i leihau gwrthdrawiadau a gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb.

“Bydd GanBwyll yn parhau i gefnogi’r terfynau cyflymder amgylcheddol hyn o 50m.y.a., drwy addysg a gorfodaeth, wrth inni i gyd weithio gyda’n gilydd tuag at gymunedau glanach a mwy diogel.”