Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, yn galw ar y Canghellor Jeremy Hunt i “ffuddsoddi mewn pobol a gwasanaethau cyhoeddus” yn ei Ddatganiad Hydref ddydd Iau (Tachwedd 17).

Rhybuddia fod yn rhaid i’r Canghellor droi ei gefn ar gylch arall o fesurau llymder.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi toriadau sylweddol mewn gwariant, ac mae hefyd wedi awgrymu y bydd yna gynnydd mewn trethi.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Jeremy Hunt y bydd yn “rhaid i bawb dalu mwy o drethi”.

Ond yn hytrach na chyhoeddi toriadau mewn gwariant, mae Rebecca Evans yn galw ar y Canghellor i fuddsoddi mewn twf, a chefnogi pobol trwy gydol yr argyfwng costau byw.

Mae hi hefyd yn galw arno i gyflwyno treth ffawdelw ar gwmnïau ynni er mwyn rhoi hwb i goffrau’r Trysorlys.

‘Hybu buddsoddiad’

“Mae Datganiad yr Hydref yn cael ei gyflwyno yng nghanol cyfnod o heriau ariannol enfawr i bobol, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, a’n heconomi,” meddai Rebecca Evans.

“Mae pobol yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau wrth i’r argyfwng costau byw gydio.

“Mae chwyddiant a phrisiau ynni sydd ar eu huchaf erioed yn lleihau cyllidebau’r sector cyhoeddus, wrth i’r galw am wasanaethau godi’n aruthrol.

“Mae’r economi yn dirywio, ac rydyn ni’n wynebu’r dirwasgiad hiraf ers y Dirwasgiad Mawr.

“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y grym cyllidol i ymateb i’r heriau hyn – a rhaid iddi wneud hynny yfory.

“Dyma’r amser i fuddsoddi mewn pobol a gwasanaethau cyhoeddus.

“Rhaid i’r Canghellor ddefnyddio ei ysgogiadau treth mewn ffordd decach.

“Drwy gynyddu’r dreth ffawdelw a chael gwared ar eithriadau o’r dreth ar enillion cyfalaf, mae modd iddo sicrhau bod y baich yn disgyn ar y rhai mwyaf cefnog.

“A thrwy droi cefn ar fesurau cyni, gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, cyflawni ei hymrwymiad i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, a hybu buddsoddiad mewn seilwaith i gefnogi a thyfu ein heconomi.”