Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, wedi’i chael hi’n anodd cadw trefn yn dilyn ffrae danllyd arall rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Fis diwethaf, collodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei dymer wrth gael ei holi am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Y tro hwn, rhwng yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan a Gareth Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig oedd y ffrae, ar ôl i’r Aelod Ceidwadol dros Ddyffryn Clwyd godi “diffyg ysbyty cymunedol yng ngogledd Sir Ddinbych”.

“Pe bai’r Llywodraeth Cymru ddigyfeiriad hon wedi gweithredu ddegawd yn ôl, yna byddai gan bobol yn y Rhyl, Prestatyn a gogledd sir Ddinbych gyfleuster iechyd lleol rŵan fyddai wedi bod yn fforddiadwy,” meddai.

Wrth ymateb, tynnodd Eluned Morgan sylw at y ffaith nad oedd hi’n Aelod o’r Senedd bryd hynny ac mai diffyg cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig oedd yn gyfrifol am y sefyllfa roedd Gareth Davies yn cyfeirio ati.

Aeth Gareth Davies yn ei flaen i sôn am neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan Ann Jones, cyn-Aelod Llafur, ond atebodd Eluned Morgan yn chwyrn i hynny.

“Felly yn sydyn iawn, dw i’n gyfrifol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol pawb o fewn y Grŵp Llafur?” gofynnodd.

“Sori bois, dw i ddim yn ei gymryd e.

“Mae gen i ddigon o gyfrifoldeb ar fy nwylo fel ag y mae hi.

“Doedd hi ddim yn y Llywodraeth, a dw i’n credu bod rhaid i chi ddeall hynny.

“Os felly, yna dw i’n mynd i’ch dal chi’n gyfrifol am yr hyn ddywedodd Liz Truss.

“Ydych chi eisiau gwneud hynny? Wna i’ch dal chi i hynny.”

Ail gwestiwn

Ar ôl y ffrae wreiddiol, gofynnodd Gareth Davies ail gwestiwn am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a fyddai Eluned Morgan yn barod i gyfarfod â’r bwrdd “er mwyn rhoi sicrwydd i bobol leol fod y llywodraeth hon ar ochr y bobol”.

Os na fydda hi’n barod i gynnig sicrwydd, meddai Gareth Davies, “a fyddwch chi rŵan yn cyfaddef eich bod chi wedi methu pobol Clwyd?”

Holodd Eluned Morgan pam mai’r llefarydd gofal, ac nid y llefarydd iechyd, oedd yn ei holi cyn i’r Llywydd ymyrryd a mynnu ei bod hi’n ateb y cwestiwn.

Bryd hynny, taflodd Gareth Davies ei ddesg darllen i’r llawr ac roedd modd clywed aelod arall yn ei rybuddio i “dyfu i fyny”.

“Ydych chi eisiau gwrando ar yr ateb?” gofynnodd y Llywydd.

“Pe bai hi mor gwrtais ag ateb yna dewch ymlaen, gadewch i ni ei gael e,” meddai Gareth Davies.

“Mae hi’n trosglwyddo’r bai drwy’r adeg.”

Diffyg trefn

Bryd hynny y collodd y Llywydd reolaeth ar y cyfarfod, ac roedd oedi mawr wrth iddi geisio adfer trefn.

“Rydych chi wedi cael eich cyfle, Gareth Davies, ac fe fyddaf yn gofyn i chi a ydych chi eisiau gadael yn dawel nawr,” meddai, wrth geisio pwyllo a thawelu’r ffrae.

“Byddaf yn gadael rŵan,” meddai, gan ychwanegu bod y sefyllfa’n “sarhad ar ddemocratiaeth”.

Mynnodd Elin Jones na fyddai’n cael dychwelyd i’r Siambr hyd nes ei fod yn barod i ymddiheuro.