Mae penaethiaid cyllid Cyngor Sir Blaenau Gwent yn mynnu y bydd benthyciad o £6m i awdurdod lleol yn Lloegr yn cael ei ad-dalu yn brydlon.

Fis diwethaf, fe ddaeth i’r amlwg mewn cyfarfod o bwyllgor craffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fod y Cyngor wedi rhoi benthyg £6m i Gyngor Bwrdeistref Thurrock yn Essex yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22.

Dros yr haf, fe ddaeth i’r amlwg fod gan Gyngor Thurrock werth £1.5bn o ddyledion.

Ym mis Medi, cafodd Cyngor Sir Essex eu penodi’n gomisiynwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i redeg Thurrock mewn modd effeithiol.

Cafodd y benthyciad, sydd i’w ad-dalu erbyn diwedd y mis, ei drafod mewn cyfarfod o bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Blaenau Gwent heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 16).

‘Chwilio am sicrwydd’

Cododd y Cynghorydd Wayne Hodgins bryderon na fyddai talp mawr o arian Blaenau Gwent yn cael ei ad-dalu gan Gyngor Thurrock.

“Mae aelodau ac etholwyr yn chwilio am sicrwydd ar hyn o bryd,” meddai.

“Ydych chi’n eithaf hapus gyda’r sefyllfa bresennol ac ydyn ni’n dechrau cael rhywfaint o ddeialog gyda’r awdurdod yma?”

Wrth ymateb, dywedodd Rhian Hayden, prif swyddog adnoddau’r cyngor, ei bod hi’n gallu “rhoi’r sicrwydd hwnnw i’r aelodau”.

“Rwyf wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol hwnnw a’r rheoleiddwyr sydd sy’n helpu’r awdurdod lleol hwnnw ar hyn o bryd y bydd y benthyciadau yn cael eu had-dalu yn unol â’r cytundeb gwreiddiol,” meddai.

“Felly, does gen i ddim pryderon ynghylch hynny.”

Atebodd y Cynghorydd Wayne Hodgins gan ddweud y “bydd hynny’n tawelu meddwl y cyhoedd ym Mlaenau Gwent”.