Mae dau gyfarfod cyhoeddus wedi’u trefnu – yn ne Meirionnydd a Phwllheli – i bobol gael lleisio barn am y cynlluniau i ganoli Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae’r cyfarfodydd yn cael eu trefnu gan Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ac Aelod Seneddol yr etholaeth, Liz Saville Roberts.
Mae’r cyfarfod ym Mhwllheli wedi ei drefnu ar y cyd rhwng y gwleidyddion lleol a Chyngor Tref Pwllheli.
Bydd hwn yn gyfle i wrando ar yr hyn sydd gan ymgyrchwyr a phobol leol i’w ddweud er mwyn hysbysu gwleidyddion lleol o’r cwestiynau sydd angen eu hateb gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.
Ymhlith y siaradwyr yn y cyfarfodydd fydd Mabon ap Gwynfor, Liz Saville Roberts, Andy O’Regan o’r ymgyrch ‘Save Our Bases’, Cynghorydd Sir Powys Elwyn Vaughan, Tom Brooks o’r Cyngor Iechyd Cymunedol, ac eraill.
Mynediad amserol at y gwasanaeth yn y fantol
“Mae’r cyfarfodydd cyhoeddus hyn wedi’u trefnu i roi cyfle i bobol sy’n byw mewn ardaloedd pell i’w cyrraedd yn ne Meirionnydd a Phen Llŷn i ddweud eu dweud ar gynlluniau i ganoli gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n debygol o fod yn y gogledd-ddwyrain,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor.
“Mae mynediad amserol at gymorth meddygol brys yn yr ardaloedd gwledig hyn eisoes yn cael ei beryglu gan ddiffyg argaeledd gwasanaeth ambiwlans digonol.
“Rydym yn rhannu’r pryder eang a fynegwyd gan ein hetholwyr yn Nwyfor Meirionnydd ynghylch goblygiadau posibl symud y gwasanaeth hwn ymhellach oddi wrth ein cymunedau.
“Mae llawer o gwestiynau pwysig yn parhau heb eu hateb ac mae amheuaeth ynghylch dibynadwyedd y data a ddefnyddir fel sail i’r penderfyniadau hyn.
“Nid yw’r data wedi’i gyhoeddi eto er gwaethaf galwadau cyson iddo fod ar gael i’r cyhoedd graffu arno.
“A fydd y trefniant newydd hwn yn cryfhau gwasanaethau brys diogel i ddelio â galwadau iechyd brys yng Ngwynedd wledig, ac a yw Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi ystyriaeth i berfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn eu proses o wneud penderfyniadau?
“Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau sy’n mynnu atebion.
“Gobeithiwn y bydd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i bobol leol leisio eu barn, ac ein helpu ni fel cynrychiolwyr lleol wrth i ni wneud ein gorau i annog Ambiwlans Awyr Cymru i adolygu eu penderfyniad.
“Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi profi ei hun dro ar ôl tro i fod yn amhrisiadwy i’n cymunedau.
“Rydym yn gefnogwyr brwd o’r gwasanaeth, ac fel cyfeillion beirniadol ein nod yw sicrhau bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud er budd ein hetholwyr.”
‘Mesur teimladau a phryder y cyhoedd’
“Rydym yn cynnal y cyfarfodydd cyhoeddus hyn i fesur teimladau a phryder y cyhoedd ynghylch y cynllun hwn i gau ein canolfannau lleol a symud y gwasanaeth hanfodol yma ymhellach i ffwrdd o’n cymunedau anghysbell,” meddai Andy O’Regan o’r ymgyrch ‘Save Our Bases’.
“Ni allwn adael i hyn ddigwydd, ac rydym yn mynnu bod ymgynghoriad cyhoeddus trwyadl, tryloyw ac agored ar y mater yn cael ei glywed yn y Senedd.
“Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i ddarparu atebion o ystyried fod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu y data.”