Mae pryderon ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i ferched yng Nghymru ar ôl iddyn nhw adael y carchar.

Yn ddiweddar, aeth Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i garchar Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw, lle mae 148 allan o 340 o garcharorion yn dod o Gymru.

Clywodd aelodau’r pwyllgor fod naw ym mhob deg o ferched sydd wedi bod yn y carchar yn troseddu eto ar ôl gadael – o’i gymharu ag un ym mhob deg yn Lloegr.

O ganlyniad, mae pryderon ynghylch effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i gyn-garcharorion wrth iddyn nhw ddod adref i Gymru a cheisio dychwelyd i’r gymdeithas.

Ymhlith y pryderon mae’r gost i garchardai a hyder mewn gwasanaethau.

“Mae’r bwlch rhwng carcharorion benywaidd o Gymru a Lloegr yn Eastwood Park sy’n troseddu eto yn syfrdanol, ac yn gwneud i chi feddwl a yw Cymru’n agos at gyflwyno gwasanaethau effeithiol,” meddai Altaf Hussain, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd sy’n aelod o’r pwyllgor.

“Tra mai profiad un carchar yw hwn, mae’n arwyddocaol oherwydd fe fydd yn cynnal nifer sylweddol o garcharorion benywaidd o Gymru, y bydd angen cymorth gan y Llywodraeth Lafur ar bob un ohonyn nhw sy’n dychwelyd i Gymru i gael eu hintegreiddio yn ôl i’r gymdeithas.

“Nid dim ond yr unigolion hynny sydd angen dechrau o’r newydd gyda chymorth tai a chyflogaeth sy’n bwysig – ond hefyd gwario arian trethdalwyr mewn modd effeithiol, sydd fel pe bai’n digwydd yn Lloegr ond nid yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn i weinidogion Llafur adrodd yn ôl ar y canfyddiadau hyn er mwyn egluro pam fod hynny’n wir a beth ellir ei wneud i wyrdroi’r sefyllfa fel bod gan droseddwyr hyder yn eu gobeithion o gael eu hailintegreiddio, ac fel bod trethdalwyr yn gwybod fod eu harian yn cael ei wario wrth gyflwyno hynny.”

Pa wasanaethau?

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am garchardai.

Ond mae’r gwasanaethau sydd ar gael i gyn-droseddwyr dan reolaeth Llywodraeth ac awdurdodau lleol Cymru.

Ymhlith y gwasanaethau dan eu rheolaeth ym Mae Caerdydd mae tai a digartrefedd, gwasanaethau i helpu i adfer pobol sy’n gaeth i alcohol a chyffuriau, cyfleoedd gwaith, ac iechyd corfforol a meddyliol.

Gall rhai carcharorion adael y carchar am gyfnodau byr ar drwydded dros dro, fel bod modd iddyn nhw gael profiad gwaith yn y gymuned, adfer cysylltiadau teuluol a pharatoi i gael eu rhyddhau yn barhaol.

Does dim carchardai i ferched yng Nghymru, sy’n golygu bod cyfran helaeth yn mynd i Eastwood Park.