Mae gofyn i siopau a busnesau ym Mhorthaethwy rannu eu profiadau am effaith cau Pont Menai ar frys yn ddiweddar.

Bu’n rhaid cau’r bont ar yr A5

Penderfynodd Llywodraeth Cymru gau’r bont ar frys i’r holl draffig ar Hydref 21 er mwyn sichrau diogelwch y cyhoedd ar ôl i beryglon difrifol gael eu hadnabod ac ar ôl i beirianwyr strwythurol argymell ei chau.

Er bod y bont wedi’i chau, mae siopau a busnesau’n dal i fod ar agor ac mae gwir angen cefnogaeth siopwyr lleol arnyn nhw.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach wedi paratoi arolwg ar-lein er mwyn i fusnesau allu dweud eu dweud, yn dilyn adroddiadau bod llai o bobol yn mynd i’r dref, ac felly bod busnesau ar eu colled.

Y gobaith yw y bydd y data sy’n deillio o’r arolwg yn cryfhau achos y Cyngor, er mwyn gallu cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio cefnogi’r busnesau lleol.

Bydd mwy na 80 o fusnesau lleol yn cael gwahoddiad ganddyn nhw i lenwi’r arolwg ar-lein, drwy ddarparu gwybodaeth am y ffordd mae eu busnesau wedi cael eu heffeithio ac i ba raddau.

‘Cysylltiad hanfodol’

Dywed y Cynghorydd Carwyn Jones, dirprwy arweinydd y Cyngor a deilydd portffolio Datblygiad Economaidd, fod “Pont Borth yn gysylltiad hanfodol wrth deithio i ganol y dref”.

“Er bod y bont ar gau, mae siopau’r dref dal i fod ar agor wrth gwrs ac angen ein cefnogaeth,” meddai.

“Mae busnesau lleol wedi adrodd gostyngiad yn nifer y bobol sy’n ymweld â nhw ers cau’r bont.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr arolwg hwn yn hanfodol er mwyn gweld pa effaith mae hyn wedi’i gael ar siopau a busnesau yn y dref.

“Rydym eisoes yn cynnal trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru o ran yr effaith mae cau’r bont wedi cael ar fusnesau lleol.

“Mae Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo busnesau yn y dref.

“Gobeithiwn y bydd yr arolwg ar-lein yn darparu gwybodaeth am yr effaith ar fusnesau a’n helpu ni greu achos ar gyfer ymyrraeth bellach, os oes angen.

“Byddwn felly yn annog busnesu lleol i’w lenwi cyn gynted â phosibl.”

Mae’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Menter Môn, Cyngor Tref Porthaethwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor er mwyn lleihau effaith cau’r bont.

Gall busnesau Porthaethwy ofyn am ddolen i’r arolwg ar-lein drwy anfon neges at DatEcon@ynysmon.llyw.cymru os na fyddan nhw’n derbyn un yn uniongyrchol i’w cyfeiriad e-bost erbyn Tachwedd 21.