Mae Ffair Gŵyl Fwyd Caernarfon heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 19) wedi bod yn gyfle i fasnachwyr a chwsmeriaid ddod yn ôl at ei gilydd yn dilyn cyfnod Covid-19 heriol.

Yn y ffair yn adeilad yr Orsaf, a rhai unedau yng Nghei Llechi, roedd amryw o stondinau yn gwerthu bob math o grefftau, celf a bwyd.

Mae’r Ŵyl Fwyd yn ddiwrnod pwysig ym mywyd Caernarfon, ac roedd y ffair yno i godi arian at yr ŵyl, gyda’r Gymraeg i’w chlywed ym mhob twll a chornel yn gwbl naturiol, a phobol o bob oed – o bensiynwyr i blant – yn dod i gymdeithasu a gweld Siôn Corn.

Un gŵr oedd â stondin yno yw Thomas Richard Jones o Bwllheli, sy’n gwerthu jig-sos i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

“Rwy’n gwerthu jig-sos ym Mhwllheli i godi arian i’r bad achub,” meddai wrth golwg360.

“Fuodd yna fawr o ddim byd dros y cyfnod clo.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n dod ’nôl ar ôl Covid, a chwrdd â phobol nad ydym wedi’u gweld ers blynyddoedd.

“Gobeithio wneith y stondin gael pobol i ddod i’r Eisteddfod flwyddyn nesaf, ac addysgu pobol am yr Eisteddfod.

“Mae’r ffair yn dod â phobol allan o’u tai ar ôl Covid i gyfathrebu a dechrau normaleiddio bywyd gobeithio.

“Mae’n anodd dweud os mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar faint mae pobol yn gwario, mae hi’n agosáu at y Nadolig.

“Efallai bydd yna ychydig allan i chwlio am bresantau Nadolig.

“Mae’r costau byw am godi ac mae am effeithio ar boced pawb.”

Braf gweld cynnyrch lleol yn cael ei werthu

Un oedd wedi dod allan am y diwrnod yw’r bensiynwraig Siân Wyn Jones o Groeslon.

“Mae’n ddiwrnod braf, mae hi’n neis gweld pobol eto ac mae’n braf gweld cynnyrch lleol yn cael ei werthu,” meddai wrth golwg360.

“Rydym wedi colli gweld pobol a chymdeithasu yn y cyfnod clo.

“Mae hwn yn ffordd dda o gymdeithasu ac yn addas ar gyfer pawb.”

Wrth siarad â golwg360, dywed Ffion Crews, sy’n fam ifanc i’w mab Jac, ei bod yn anodd oherwydd bod plant wedi colli allan yn gymdeithasol oherwydd Covid.

“Gwnaeth Jac fwynhau gweld Sïon Corn a’r corachod, a chafodd lyfr hyfryd gan Sïon Corn,” meddai.

“Mae’r cyfnod clo wedi ei wneud o’n anodd i blant ailddechrau, ac roedd o’n fwy pryderus yn mynd tro yma nag mae wedi bod o’r blaen.

“Mae plant wedi colli allan yn gymdeithasol oherwydd y cyfnod clo ac mae hynny wedi ei wneud o’n anoddach iddyn nhw gyfathrebu efo Sïon Corn a’r corachod.

“Roeddent yn gorfod dechrau o’r dechrau.”