COLOFN WYTHNOSOL WLEIDYDDOL HUW BEBB, EIN GOHEBYDD SENEDDOL…

Mae’n ymddangos bod Boris Johnson yn benderfynol o geisio aros yn berthnasol waeth pa mor wirion a phathetig y mae o’n edrych.

Fe ymddangosodd yn yr Aifft yr wythnos hon, ar gyfer cynhadledd amgylcheddol COP27, er mawr ddryswch i bawb.

Daw hyn ychydig wythnosau ar ôl iddo fygwth sefyll yn y ras i olynu Liz Truss – fuodd yn Brif Weinidog am 44 diwrnod.

Felly pam yn union roedd Boris Johnson yn COP27? Fe eglurodd hyn drwy ddatgan mai’r “Eifftiaid sydd wedi fy ngwahodd”.

Wel dyna chi ateb chwerthinllyd o amwys, sydd ond yn codi cwestiynau pellach. Un amlwg ydi, pam fod yr Eifftiaid mor awyddus i gael Boris Johnson, o bawb, yn COP27?

Doedd hi ddim fel petai ganddo rôl swyddogol i’w chwarae. A beth yw gwerth cael cyn-Brif Weinidog yn bresennol wnaeth adael Rhif 10 o dan gwmwl, mewn difrif?

Ta waeth, mi aeth, ac mae’n debyg na fyddai neb wedi gallu ei berswadio i gadw draw.

Rywsut neu’i gilydd, fe ffeindiodd ei hun yn annerch y gynhadledd, lle cyfeiriodd ato’i hun fel “ysbryd Glasgow”, lle cafodd COP26 ei chynnal.

Dyna beth od i’w ddweud o ystyried fod y Llywodraeth roedd o’n ei rhedeg wedi ceisio agor pyllau glo newydd, wedi rhoi caniatâd i gwmnïau dŵr ollwng carthion mewn i afonydd a glannau môr ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal â methu’n glir â gosod cynllun i’r Deyrnas Unedig gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net, ar ôl addo gwneud.

O! A pheidiwch anghofio mai dyma’r dyn gafodd ei gyhuddo o ddisgyn i gysgu tra’n eistedd wrth ymyl Syr David Attenborough yn ystod COP26 – ydi o’n credu fod gan bawb gof yr un mor fyr â fo?

Ydi, dw i’n meddwl ei bod hi reit glir pam fod Boris Johnson wedi mynd i COP27, ac nac ydw, dw i ddim yn credu’r stori cock and bull yma bod “yr Eifftiaid” wedi ei “wahodd”.

Boris dal eisiau bod yn Brif Weinidog

Gweld eisiau bod yn Brif Weinidog mae Boris Johnson, nid y dyletswyddau a’r gwaith caled wrth gwrs; fe wnaeth y ffordd yr aeth o’i chwmpas hi yn ystod y pandemig brofi nad oes ganddo lawer o awch am y pethau hynny.

Gweld eisiau cael ei weld, cael dangos ei hun, a theimlo fel ffigwr pwysig a pherthnasol mae’r hen Boris.

Wnaeth o ddim hyd yn oed gallu gwrthsefyll yr ysfa i grybwyll y modd y cafodd ei daflu allan o Rif 10 yn ystod ei araith, gan awgrymu fod tymheredd uchel yn y Deyrnas Unedig dros yr haf wedi chwarae rhan. Ia, Boris, dw i’n siŵr mai’r tymheredd wnaeth hi, wsdi.

Erbyn hyn, doeddwn i ddim yn siŵr os mai chwerthin ar ei ben, neu deimlo piti drosto oeddwn i fod i’w wneud. Roedd o’n berfformiad gwirioneddol bathetig gan ddyn chwerw sy’n amlwg yn methu’n glir â dygymod â’r ffaith nad yw bellach yn berthnasol ac nad oes gan unrhyw un sydd â sens unrhyw ddiddordeb yn yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. What a sad little life, Boris.

Y jôc ydi, mae’n bur debyg mai fo fyddai wedi bod yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig petai o ond wedi dangos ychydig o synnwyr cyffredin, a bihafio ei hun tra’r oedd o’n Brif Weinidog.

Wedi’r cyfan, fe wnaeth y Blaid Geidwadol faddau iddo am bob math o bethau fyddai wedi golygu diwedd ar yrfa unrhyw wleidydd arall.

Ond fel pob chancer, fe wnaeth wthio ei lwc yn rhy bell, gan amlygu ei hun fel rhywun nad oedd hyd yn oed ffyddloniaid Brexitaidd boncyrs ei blaid yn gallu ymddiried ynddo.

Dw i’n falch nad ydi o’n Brif Weinidog bellach, ac yn gobeithio na fydd o’n gorfodi ei hun a’i anerchiadau rhagrithiol ar COP28.

A dweud y gwir, y lleiaf dw i’n clywed gan Boris Johnson yn gyffredinol, gora’n byd!