Er iddyn nhw lwyddo i atal 400 o dai rhag cael eu codi yn eu pentref yn ddiweddar, fydd ymgyrchwyr yn Aberdyfi ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau.

Mi fyddan nhw nawr yn mynd ati i geisio codi cannoedd o filoedd o bunnau er mwyn gallu prynu swyddfa bost a garej i’w defnyddio gan y gymuned leol.

Ddechrau’r mis, roedd trigolion lleol yn dathlu wedi i gwmni Hillside Parks Ltd fethu gyda chais i gael yr hawl i godi cannoedd o dai newydd yn Aberdyfi.

Cafodd y cais gwreiddiol i adeiladu 400 o dai ei gymeradwyo yn 1967 gan yr hen Gyngor Meirionnydd.

Erbyn hyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gyfrifol am faterion cynllunio yn Aberdyfi, ac maen nhw o’r farn nad oedd modd cwblhau’r cynllun codi tai gwreiddiol.

Ac mae’r Uchel Lys wedi cytuno gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nad oes hawl i barhau gyda’r cais cynllunio erbyn hyn.

Mae golwg360 wedi bod yn siarad gydag un o’r prif ymgyrchwyr fu yn trefnu protestiadau yn erbyn y cynllun i adeiladu’r 400 o dai.

“Fysa nhw’n dai gwyliau,” meddai Catrin O’Neill wrth golwg360, a hithau’n aelod o Gyngor Cymuned Aberdyfi ac yn un o’r prif ymgyrchwyr fu’n trefnu protestiadau yn erbyn y cynllun i adeiladu’r 400 o dai.

“Fysa yna ddim llawer o bobl leol yn byw yn y tai yna.”

Codi llais dros hawliau trigolion lleol

Mae Catrin O’Neill yn llafar dros hawl trigolion lleol i fyw yn eu cymunedau eu hunain, yn Aberdyfi a thu hwnt.

Ac mae hi hefyd am i bobol wybod am y gwaith sydd ar y gweill i geisio codi arian i ddal gafael ar swyddfa bost a garej yn ei phentref.

“Mae’n bwysig i ganolbwyntio ar beth rydan ni yn trio gwneud yn y pentref,” meddai.

“Rydan ni’n trio prynu’r swyddfa bost a garej er mwyn y gymuned.

“Felly rydan ni am wneud y community shares project, ond rydan ni angen codi £600,000.

“Mae yna waith yn mynd ymlaen yn y pentref i drio gwella pethau.”

Ond mae hi yn cydnabod bod ceisio cael y trigolion i brynu gwerth £600,000 o gyfranddaliadau, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, yn dalcen caled.

“Fel mae o rŵan, costau yn mynd fyny, yr ofn ydy na fydd llawer o bres ar gael yn y gymuned achos bydd pawb yn skint.

“Ond rydan ni’n mynd i drio y community ownership fund hefyd, grantiau, benthyciadau, community share offers...”