Mae gweithwyr canolfannau ailgylchu yn Sir y Fflint am gychwyn gwisgo camerâu ar eu cyrff, er mwyn dal tystiolaeth o unrhyw un sy’n eu bygwth a’u sarhau.

Ar hyn o bryd mae staff yn cael eu sarhau gan rai aelodau o’r cyhoedd sy’n cynddeiriogi am nad ydyn nhw yn cael gollwng gwastraff yn y canolfannau.

Mae yna dyndra yn codi wrth i rai pobol yrru cerbydau cwmnïau masnachol i’r canolfannau a cheisio gollwng gwastraff yno, yn groes i’r rheolau.

Yn ôl adroddiad gan Brif Swyddog Trafnidiaeth y cyngor sir: “Pan mae’r cwsmeriaid hyn yn cael eu holi neu eu herio gan ein staff, mae rhai yn ymddwyn yn dreisgar a sarhaus, gan greu annifyrrwch yn y gweithle.

“Bu cynnig i ganiatáu ychydig o hyblygrwydd i’r cerbydau hynny sydd wedi eu cofrestru i fusnes, eu bod yn cael caniatâd i ollwng gwastraff – os yw yn glir nad yw’r gwastraff wedi ei gynhyrchu gan y cwmni neu yn deillio o weithgareddau’r busnes.

“Er enghraifft, caniatáu i gerbyd sydd wedi ei gofrestru i blymar gludo gwastraff o’r ardd.”

Mae Cyngor Sir Y Fflint am wella arwyddion yn eu canolfannau ailgylchu, er mwyn adlewyrchu unrhyw amrywio a hyblygrwydd yn y polisi newydd ar gyfer gollwng gwastraff.

Yn ei adroddiad mae’r Prif Swyddog Trafnidiaeth yn dweud bod “lefel y sarhad a’r bygythiadau” i staff y cyngor “yn bryder parhaol ers peth amser… bydd y staff ar y safleoedd yn cael camerâu CCTV i’w gwisgo er mwyn recordio a riportio unrhyw achosion”.

Ymestyn yr oriau agor

Mae Cyngor Sir Y Fflint hefyd am ystyried agor eu canolfannau ailgylchu y tu hwnt i oriau gwaith arferol, er mwyn cynyddu’r nifer o drigolion sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth.

Ar hyn o bryd mae pum canolfan ailgylchu’r sir ar agor rhwng naw y bore a phump y prynhawn, saith diwrnod yr wythnos.

Dan y cynlluniau newydd, mi fyddai’r canolfannau ar agor o 8yb tan 5.30yp.

Mi fydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod adolygiad o’r cynllun ar gyfer caniatáu gollwng gwastraff yn y canolfannau ailgylchu.