Mae yna “resymau personol a rhai gwleidyddol” tu ôl i benderfyniad Hywel Williams i beidio sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Wrth iddo gyhoeddi ei fod yn camu’n ôl o fyd gwleidyddiaeth, mae’r gŵr fu’n cynrychioli Caernarfon rhwng 2001 a 2010, ac yna Arfon ers 2010, yn San Steffan, wedi bod yn trafod ei yrfa ac yn hel atgofion gyda golwg360.

Wrth annerch aelodau lleol y Blaid mewn cyfarfod neithiwr (nos Iau, Tachwedd 10), dywedodd y bu’n “anrhydedd ac yn fraint” gwasanaethu pobol Arfon, a chyn hynny, etholaeth Caernarfon yn ystod ei gyfnod o fwy na dau ddegawd yn Aelod Seneddol.

Cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2001, gan olynu Dafydd Wigley, ac fe ddaliodd ei afael ar y sedd yn 2005, gan ennill sedd newydd Arfon yn 2010 wedi i’r ffiniau etholaethol gael eu newid.

Fe gadwodd e’r sedd yn enw Plaid Cymru chwe gwaith ers hynny.

‘Pethau eraill i’w gwneud’

“Wel, mae yna resymau personol a rhai gwleidyddol,” meddai Hywel Williams wrth golwg360 wrth drafod ei benderfyniad.

“Y rhesymau gwleidyddol ydi, efo’r newid ffiniau ac yn y blaen, ’tasa’r Llywodraeth yn galw etholiad cyffredinol buan, deuda cyn Mehefin eleni, mi fasa hi ar hen ffiniau Arfon ac mi fasa’n rhaid i mi fod yn barod i sefyll.

“Felly mae o’n fater o amserlen i gael rhywun mewn lle i’r person yna gael dod i ddygymod gyda rôl ymgeisydd ac ati rhag ofn y cawn ni etholiad cyn canol yr haf nesaf.

“Ar lefel bersonol, mae gen i blant bach naw a chwech oed ac mi faswn i’n licio treulio mwy o amser gyda nhw.

“Mi fydda i’n 70 oed nesaf, ac mae yna bethau eraill i’w gwneud.”

‘Dirywiad’

Mae Hywel Williams o’r farn fod yna “ddirywiad pendant” wedi bod yn safon y gwleidyddion sy’n gyfrifol am redeg y Deyrnas Unedig, ac mae’r ffaith nad yw’n credu fod y Llywodraeth bresennol “ymysg eu pethau” yn ffactor arall pam ei fod wedi penderfynu peidio sefyll eto.

“Mae yna ddirywiad pendant wedi bod, (David) Cameron am wn i wnaeth ei ddechrau o,” meddai.

“Ac mae’r holl broses Brexit wedi gwneud niwed aruthrol i enw da Prydain, os oedd gan Brydain enw da yn y lle cyntaf.

“Ond mae enw da Prydain a pharch tuag at Brydain yn y byd wedi dirywio’n rhyfeddol.

“Dw i’n darllen y wasg dramor i raddau, papurau Ffrainc ac Iwerddon yn benodol a rhai America o bryd i’w gilydd, ac mae hynna i’w weld.

“Mae pobol sy’n gyfeillgar at Brydain yn crafu eu pennau ac mae’r rhai sydd yn erbyn Prydain yn chwerthin.

“Y peth ydi efo (Tony) Blair a (Gordon) Brown, y bobol oedd mewn grym pan ddes i mewn gyntaf, roeddwn i’n anghytuno gyda nhw’n llwyr efo Affganistan ac Irac a phethau eraill.

“Ond o leiaf ro’n i’n teimlo eu bod nhw’n alluog, yn competent.

“Ond dydy’r rhain rŵan ddim yn gwneud job dda ohoni.”

Rhyfel Irac a Brexit yn “sefyll allan”

Ac yntau wedi bod yn San Steffan ers 2001, mae Hywel Williams wedi bod yng nghanol y bwrlwm ar sawl eiliad dyngedfennol i Brydain.

Ymhlith y rhai mae’n dweud fydd yn “aros yn y cof” mae’r penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac a’r ymgyrch i geisio rhwystro hynny rhag digwydd, yn ogystal â Brexit.

“Mae rhyfel Irac yn un amlwg,” meddai.

“Roeddwn i’n gwrthwynebu, ac fe fuon ni’n cydweithio ar draws pleidiau i drio lliniaru rhyw gymaint, os nad ei stopio fo.

“Yn hynny o beth, fe ges i brofiad o siarad gyda phobol o Lywodraeth America, o’r State Department, a gweld eu bod nhw’n benderfynol o fynd ymlaen efo’r peth.

“Ddeudodd un person oedd yn eithaf uchel i fyny yn y State Department wrtha i pan wnes i ofyn a oedden nhw am fynd i mewn i Irac, “Yes we will, with our friends if we can but without them if we must“.

“Felly roedd Prydain yn atodiad, ond doedden nhw ddim yn angenrheidiol, fe ddaru hynny sticio yn fy meddwl i.

“Wedyn wnes i ofyn beth oedd eu bwriadau nhw ar gyfer Irac, ac mi ddywedodd o mai’r bwriad oedd sefydlu gwlad ddemocrataidd o fewn ei ffiniau presennol.

“Ond o ganlyniad i hynna, fe ddaru ni fynd ati efo ymgyrch i geisio uchelgyhuddo Blair, fe gafodd yr impeachment ei arwain gan Adam Price ac Elfyn Llwyd a minnau fel yr oedd hi bryd hynny.

“Felly fe wnes i gyfrannu i hynny, ddim mor flaenllaw â’r ddau arall wrth gwrs, ond roedd hynna yn rhywbeth mawr iawn.

“Rhywbeth arall amlwg sy’n aros yn y meddwl yw Brexit, dw i wedi gwneud gymaint o waith ar hynny.

“Ro’n i ar y pwyllgor dethol craffu ar Brexit ac mi fyddwn i’n mynd drosodd i Frwsel a siarad efo rhai o’r brif bobol yn fanno, cymryd tystiolaeth ac yn y blaen, a gweld pa mor ddi-drefn oedd hynny.

“Roedd y manylion yn aneglur, yr addewidion yn enfawr ac roedd hi’n anodd iawn gweld sut yr oedden nhw’n mynd i’w gyflawni.

“Mae hwnna yn sefyll allan yn bendant.”

‘Pobol Arfon’

“Y peth arall ydi ymwneud efo pobol etholaeth Arfon, a Chaernarfon cyn hynny,” meddai wedyn

“Dim fy mod i’n brolio, ond roedd sedd Arfon yn sedd newydd (yn 2010) ac roedd y polau opiniwn yn dangos mod i’n colli.

“Felly roedd o’n bleser aruthrol gweld ‘Plaid gain’ yn dod i fyny ar sgrîn y BBC, dydan ni ddim yn gwneud hynny mor aml â hynny!

“Ond mae gweithio efo pobol Arfon, y cymorthfeydd diddiwedd ac ati, mae hynna wedi bod yn foddhad aruthrol.”

Er iddo amddiffyn y sedd dros Blaid Cymru heb lawer o fygythiad am y rhan fwyaf o’i yrfa, fe ddaeth o fewn trwch blewyn i’w cholli yn 2017, gan sicrhau mwyafrif o 92 yn unig.

“Ryw bythefnos cyn yr etholiad fe wnes i sylweddoli bod yna bethau yn digwydd,” meddai wrth edrych yn ôl ar yr etholiad hwnnw.

“Roedden ni’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn aruthrol o dynn.

“Fe wnaeth y Blaid Lafur wneud ymdrech bendant iawn i fy nghael i allan.

“Roedd hynny yn siom a dweud y gwir achos roeddwn i wedi cydweithio efo aelodau blaenllaw y Blaid Lafur ar bethau fel Irac ac yn credu fy mod i o’r un tarddiad gwleidyddol â nhw.

“Felly roedd eu gweld nhw wedyn yn cynnal eu rali derfynol ar brynhawn dydd Sul cyn yr etholiad ym Mangor yn beth od, a dweud y lleiaf.

“Roedden nhw wedi dod â phobol i mewn o bob cwr i ymgyrchu, gan adael seddi eraill i fynd i’r Ceidwadwyr.

“Ro’n i’n ei weld o’n dactegol ryfedd ond roedd o hefyd yn siom bersonol i mi a dweud y gwir.”

‘Anrhydedd cael cynrychioli sedd fel hon’

“Mae hynny fyny i’r ymgeiswyr eu hunain a’r Blaid yn lleol,” meddai am ddyfodol y sedd.

“Dw i’n gobeithio y bydd yna dipyn yn rhoi eu henwau ymlaen achos mae gennym ni lot o bobol yn lleol.

“Eto, mae’n siŵr nad yw pobol yn sylweddoli ond Plaid Arfon ydi, mae’n debyg, yr etholaeth fwyaf o ran aelodaeth, efallai fod Caerfyrddin ychydig bach yn fwy.

“Rydan ni’n bell dros 1,000 o aelodau’n lleol ac mae hynny yn cymharu’n ffafriol gydag unrhyw blaid arall gan gynnwys Llafur a’r Torïaid [yn eu cadarnleoedd].

“Fel y gwelsom ni yn ras arweinyddiaeth y Torïaid, mae ganddyn nhw 160,000 o aelodau ar draws Prydain gyfan, mae gennym ni 1,000 yn Arfon.

“Mae o’n gwneud i chdi feddwl.

“Ond beth mae o’n ei olygu ydi bod gennym ni lot o bobol alluog yn lleol, lot ohonyn nhw wedi cael eu hethol yn ddiweddar fel cynghorwyr.

“Ond efallai y bydd yna bobol o’r tu allan hefyd, mae sedd Arfon yn sedd rydan ni wedi’i dal rŵan ers 1974 ac mae o’n dipyn o beth, yn anrhydedd cael cynrychioli sedd fel hon.

“Na, does gen i neb mewn golwg, ond dw i’n siŵr y bydd yna rai.”

Hywel Williams ddim am sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol nesaf

Bu’n gwasanaethu ers 2001, yng Nghaernarfon rhwng 2001 a 2010, ac yna yn Arfon ers hynny