Mae Maer Dinas Bangor, Owen Hurcum, wedi cyhoeddi eu bod nhw’n camu i lawr o’r rôl erbyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai.
Fe fyddan nhw’n dychwelyd i Norfolk am gyfnod, ond maen nhw wedi pwysleisio mai Bangor “yw eu cartref” ac y byddan nhw’n dod yn ôl i fyw yno’n fuan.
Mae Owen wedi bod yn aelod o Gyngor Dinas Bangor ers pum mlynedd, ar ôl dod i’r ddinas o Lundain er mwyn astudio yn y brifysgol.
Yn 2021, fe gawson nhw eu hethol yn Faer y Ddinas – y person anneuaidd cyntaf i wneud hynny mewn unrhyw ddinas yn y byd.
Drwy gael eu hethol i’r rôl, nhw oedd y Maer ieuengaf yn hanes Cymru hefyd.
Cyfnod ‘cyffrous’
“Wrth gwrs, roedd hyn yn fraint,” meddai Owen wrth golwg360.
“Dw i’n gwybod bod pobol sydd yn anneuaidd neu’n rhan o’r gymuned LHDTC+ wedi estyn allan yn uniongyrchol i fi oherwydd fy mod i’n eu cynrychioli.
“Mae bod yn Faer yn hynny o beth wedi galluogi fy stori i’w cyrraedd nhw, a gobeithio eu helpu nhw.
“Ond fyswn i’n dweud ’na dim hynny oedd y cyflawniad mwyaf. Y cyflawniadau ydi’r hyn rydyn ni wedi ei wneud fel Cyngor Dinas dros y bum mlynedd diwethaf.
“Mae wedi bod yn bum mlynedd gyffrous i fod yn rhan ohono, ac mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous i fi fel Maer.”
‘Profiad anhygoel’
Fe fydd Owen yn gadael eu swydd ym mis Mai oherwydd eu bod wedi cael y cyfle i brynu cwch a’i ddefnyddio fel cartref yn Norfolk.
Dydyn nhw ddim yn credu ei bod hi’n deg i barhau fel cynghorydd tra nad ydyn nhw’n byw ym Mangor.
“Dw i wedi penderfynu camu i lawr achos dw i’n credu y dylai cynrychiolwyr lleol fod yn byw’n lleol,” medden nhw.
“Ar achlysur, mae’n gallu bod yn ddiddiolch a’n rhwystredig, yn enwedig wrth ystyried eich bod chi’n gwneud hyn ar ben pethau eraill.
“Fel rhywun sydd ddim wedi ymddeol, dw i’n gwneud hyn ar ben gradd brifysgol rhan amser swydd rhan amser hefyd, sef sut dw i’n cael fy incwm.
“Hefyd, mae yna dwpsod allan yna sydd wedi penderfynu treulio’u hamser yn targedu fi achos pwy ydw i, ond dw i’n gallu delio efo hynny, er na ddylwn i.
“Ond mae wedi bod yn brofiad anhygoel, a dydy fy mhenderfyniad ddim yn adlewyrchiad o hynny.
“Mae pawb ar y cyngor wedi bod yn gefnogol iawn ohono i o’r cychwyn cyntaf.”
‘Teimlo’n anghyffyrddus yn rhannu’r un platfform â nhw’
Roedd Owen ar ddechrau eu cyfnod yn gynghorydd Plaid Cymru, ond penderfynon nhw barhau’n aelod annibynnol y llynedd.
“Fe adawais i’r Blaid cyn Etholiad y Senedd yn 2021,” medden nhw.
“Mae’n broblem sydd gan lawer o’r pleidiau gwleidyddol.
“Dydy o ddim o reidrwydd bod yr arweinwyr yn trawsffobig, a fyswn i’n sicr ddim yn awgrymu bod Adam Price ei hun yn trawsffobig tuag ata i nag unrhyw aelod arall.
“Ond roedd yn edrych fel petai’n cael ei ganiatáu yn y Blaid.
“Pe byddai rhywun Plaid Cymru yn dweud rhywbeth gwrth-semitaidd, yna bydden nhw’n cael eu hymchwilio, byddai eu haelodaeth efallai’n cael ei wahardd, a byddai’n rhaid iddyn nhw fynd ar raglen hyfforddi.
“Mae hynny’n wych, ond efallai byddai gan y Blaid ymgeisydd sydd wedi cael eu dal ar y record yn dweud bod pobol draws yn ddim byd ond tuedd, a’u bod nhw’n cael eu dylanwadu ac ati.
“Roeddwn i’n teimlo’n anghyffyrddus yn rhannu’r un platfform â nhw, ac er bod gweithredu, roedd o jyst yn teimlo fel ein bod ni’n taro ein pennau yn erbyn wal, a bod dim byd am newid.
“Mae’r Blaid, o beth dw i’n ei wybod, wedi dechrau symud i’r cyfeiriad iawn. Ond tra bydden nhw’n rhoi cefnogaeth i rywun sydd yn amlwg yn wrth-traws, doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw gyfiawnhau bod nhw ddim yn trawsffobig drwy fy nghael i fel Maer anneuaidd.”
Symud i blaid newydd
Ychwanega Owen Hurcum nad oedd eu penderfyniad yn adlewyrchiad o Blaid Cymru Bangor, gan fod aelodau wedi bod yn “gefnogol iawn” ohonyn nhw.
Maen nhw bellach yn aelod o Blaid Breakthrough, plaid sydd “yn ddigyfaddawd o sosialaidd, blaengar, ac asgell-chwith” ac sydd “heb y baich o fod yn blaid fawr”.
“Dw i ddim yn dweud am un funud y byddan nhw’n ennill llawer o seddi yn yr Etholiadau Lleol yn 2022,” medden nhw wedyn.
“Ond cyn belled â bod yna bobol sy’n barod i sefyll ar blatfform blaengar, dyna pwy dw i eisiau bod mewn cwmni â nhw.”
Y farchnad dai yn ‘rhwystredig’
Bwriad Owen Hurcum yw trawsnewid y cwch yn Norfolk a’i gludo yn y pen draw i fyny i Fangor a byw yn y fan honno yn y dyfodol agos.
Maen nhw’n cyfaddef ei bod hi’n rhwystredig gorfod aberthu’r swydd i gael ar yr ysgol dai.
“Roedd yn gynnig doeddwn i’n methu a’i wrthod,” medden nhw.
“Fe dreuliais i gyfnodau o fy mhlentyndod ar gwch, gan fod fy nhad yn arfer byw ar gamlas.
“Mae’r cwch angen tipyn o waith, ond mae’n llawer iawn rhatach na thŷ.
“Yn wreiddiol, roeddwn i’n gweithio tua 50 awr rownd popeth er mwyn cael cytundeb mewn egwyddor ar gyfer morgais.
“Ond hyn yn oed wedyn, pan oeddwn i’n rhoi cynigion mewn am dai, doeddwn i’n dal ddim yn gallu eu cael nhw achos bod pobol wastad yn rhoi cynigion uwch.
“Mae mwy neu lai yn amhosib os ydych chi’n ennill ychydig ar ben yr isafswm cyflog fel oeddwn i.
“Dw i’n falch fy mod i’n gallu stopio gwneud gwaith mor ddwys, ond mae’n drist bod hyn yn mynd i fy nghymryd i ffwrdd o Fangor.
“Ddim jyst fi sy’n gorfod profi hyn chwaith. Dw i’n adnabod lot o bobol sy’n fyfyrwyr yma ac sydd wedi caru eu hamser yma, ond wedi gorfod mynd i lefydd eraill lle mae hi’n haws prynu neu rentu tŷ.”
‘Bangor yw fy nghartref’
“Fe fydda i’n sicr yn dod â’r cwch yn ôl i Fangor,” medden nhw wedyn.
“Dw i’n cwblhau fy ngradd meistri rhan amser ar hyn o bryd, felly fydda i yma yn amlach na pheidio, hyd yn oed pan fydda i’n byw ar fy nghwch.
“Efallai mewn pum mlynedd pan fydd yr Etholiadau Lleol yn 2027. Fe alla i roi fy enw ymlaen bryd hynny.
“Bangor yw fy nghartref, er nad ydw i wedi tyfu fyny yma.
“Dyma le wnes i ddod allan, a lle ges i’r hyder i wneud hynny. Ac i bob pwrpas, dyma’r unig le dw i wedi byw lle dw i wedi gallu bod yn fi fy hun.
“Er y byddai ffwrdd am ychydig, dyma lle dw i isio bod am y dyfodol gweladwy.”