Aled Morgan Hughes
Aled Morgan Hughes sydd yn edrych ar ras etholiadol arall fydd yn digwydd yng Nghymru’r flwyddyn nesaf …
Gyda’r dadlau rhyngbleidiol yn ffyrnigo, gweithgarwch ar garreg y drws ar gynnydd, a chynadleddau’r hydref bellach ond yn ôl-ystyriaeth, mae arogl etholiad unwaith eto yn llenwi’r ffroenau. Dim ond rhyw saith mis sydd bellach tan etholiadau’r Cynulliad fis Mai nesaf.
Fe wnawn ni faddau fodd bynnag i’r rheiny ohonoch sydd wedi anghofio nad llywodraeth nesaf Cymru yn unig fydd yn cael ei benderfynu yn y blwch pleidleisio ar 5 Mai 2016, ond hefyd mater bychan y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.
Dweud cynnil yw awgrymu nad oedd y syniad o ethol Comisiynydd Heddlu wedi dal yn nychymyg pobl Cymru a Lloegr.
Yn yr etholiad cyntaf yn Nhachwedd 2012, ar draws y pedwar rhanbarth Cymreig, dim ond canran isel o ryw 15% o bobl aeth allan i bleidleisio, ffigwr a syrthiodd mor isel â 10.4% mewn isetholiad diweddar dros Glawdd Offa yng Nghanolbarth Lloegr.
Gyda rheng o’r gymdeithas yn parhau’n wrthwynebol i fodolaeth y swyddi, ynghyd ac eraill sydd wedi cael llond bol ar eu cost, penderfyniadau ac ambell sgandal, pur annhebyg y bydd yr etholiadau’n datblygu’n bwnc trafod dros beint yn y dafarn leol!
Llwyddiant yr annibynwyr
Yn genedlaethol ar draws Cymru, heb fod yn fawr o syndod i neb, Llafur ddaeth i’r brig yn yr etholiadau cyntaf yn 2012, ond amrywiol oedd eu ffawd yn y rhanbarthau unigol.
Er i Alun Michael gipio swydd rhanbarth Heddlu De Cymru yn gymharol hawdd, yn y gogledd colli fu hanes ei fab Tal Michael ar ôl cael ei drechu gan yr ymgeisydd annibynnol poblogaidd Winston Roddick.
Stori debyg gafwyd yng Ngwent hefyd gydag ymgeisydd annibynnol arall, Ian Johnston, yn cipio’r awenau.
Mae’n bosib mai yn Nyfed Powys y cafwyd un o’r gornestau fwyaf diddorol, gyda’r Ceidwadwr Christopher Salmon yn gwneud digon i drechu’r cyn-AC Llafur Christine Gwyther o ryw 1,000 pleidlais mewn ras dau geffyl.
Plaid yn newid y gêm
Fodd bynnag, bydd y sefyllfa’n wahanol fis Mai am ambell reswm. Yn gyntaf oll, bydd yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad ac felly bydd y turnout yn sicr o fod yn uwch.
Er ei fod yn is nag etholiadau San Steffan, fel arfer mae tua 40% o bobl Cymru’n pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, ac er na fydd pawb yn dewis taro pleidlais am Gomisiynydd mae’n sicr o fod yn uwch na’r 15% a welwyd y tro diwethaf.
Mae’n bosib hefyd y caiff etholiadau’r Cynulliad effaith arall ar yr etholiadau’r Comisiynwyr, a hynny drwy gynnig naratif pleidiol dylanwadol.
Tra bod nifer o’r ymgeiswyr annibynnol wedi llwyddo yn ystod graveyard shift yr etholiad blaenorol yn 2012, tro yma, gyda’r wasg a chyfryngau yn canolbwyntio fwyfwy ar hynt a helynt y prif bleidiau yng nghyd-destun etholiad y Cynulliad, mae’n bosib iawn y caiff llais a chyhoeddusrwydd yr ymgeiswyr annibynnol ei golli yn yr holl fwrlwm.
O edrych ar y pleidiau, gwahaniaeth arall sylfaenol yw’r ffaith y bydd y gornestau’n llawer mwy cystadleuol eleni gan fod Plaid Cymru yn sefyll y tro yma.
Roedd gan y Blaid wrthwynebiad i’r etholiadau yn 2012, gan beidio â chynnig ymgeiswyr yn y pedwar rhanbarth – penderfyniad awgrymodd rhai oedd o fudd i rai ymgeiswyr annibynnol megis Winston Roddick.
Ni fuasai’n sioc chwaith i weld y Democratiaid Rhyddfrydol na UKIP (a safodd yng Ngogledd Cymru yn unig yn 2012) yn cynnig ymgeiswyr ar draws Cymru y tro hwn chwaith.
Cipio’r canolbarth?
Mae’n rhy gynnar o bell ffordd i ddechrau rhagfynegi canlyniadau etholiad Cynulliad 2016, ond wrth edrych ar duedd canlyniadau etholaethau yn y rhanbarthau heddlu dros y ddau etholiad Cynulliad diwethaf mae’n edrych fel y gallai penderfyniad Plaid Cymru i gynnig ymgeiswyr tro yma gyffroi’r darlun yn sylweddol.
Bosib bod hyn ar ei amlycaf yn achos rhanbarth Heddlu Dyfed Powys, sy’n cynnwys cadarnleoedd Plaid Cymru megis Ceredigion a Sir Gâr.
Roedd gan y blaid fwyafrif cyfforddus ar draws y rhanbarth yn etholiad Cynulliad 2007, ac fe ddaethon nhw o fewn trwch blewyn i gael mwy o bleidleisiau na’r Ceidwadwyr yn 2011 mewn etholiad oedd yn un siomedig iddyn nhw.
Petai etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu wedi digwydd yn y blynyddoedd hynny fe fyddai gan Blaid Cymru siawns dda, ac felly fe fydd eu gobeithion o gipio’r sedd y tro hwn yn fyw iawn.
Canlyniadau etholiadau Cynulliad 2007 a 2011 yn y gwahanol ranbarthau heddlu
Brwydr yn y gogledd
Ni fuasai buddugoliaeth i Blaid Cymru yn rhanbarth Heddlu Gogledd Cymru yn sioc enfawr chwaith.
Yn etholiad Cynulliad 2007 daeth y blaid i’r brig yn y gogledd, ac er cryfder Llafur yn y gogledd ddwyrain a’r Ceidwadwyr yng Nghonwy ac ardaloedd o Glwyd, mae’n bosib y byddai ymgyrch genedlaethol boblogaidd gan Blaid Cymru ar gyfer y Cynulliad, ynghyd ag ymgeisydd da, yn ddigon i roi’r sedd yn eu dwylo nhw.
Ni ddylid pardduo siawns y Ceidwadwyr yn fan hyn chwaith. Fel profwyd yn 2011 ac eto eleni yn etholiad cyffredinol San Steffan mae grym y Torïaid yn cryfhau’n sylweddol yn yr ardal, a gyda Llafur yn ymddangos yn fwyfwy amhoblogaidd yn yr ardal yn sgil eu record lywodraethol ym Mae Caerdydd, pwy a ŵyr?
A seddi de ddwyrain Cymru? Roedd y Blaid Lafur yn tra-arglwyddiaethu yn yr etholaethau yma yn etholiadau’r Cynulliad, a gyda disgwyl cynnydd sylweddol mewn turnout a naratif etholiad Cynulliad, mae’n debygol iawn caiff y Blaid Lafur y chwistrelliad angenrheidiol er mwyn ei thanio i’r lan yng Ngwent, a chadw De Cymru.
Felly er mai’r etholiadau Cynulliad fydd yn hawlio’r rhan fwyaf o’r penawdau rhwng nawr a mis Mai nesaf, mae’n bosib iawn y bydd ras y Comisiynwyr Heddlu yn cynnig rhyw sideshow ddiddorol iawn – cadwch hi mewn cof dros y misoedd nesaf!
Mae Aled Morgan Hughes yn ymgeisydd PhD yn adran Wleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac yn cael ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.