Awyren filwrol Rwsia a gafodd ei saethu i'r llawr gan Dwrci
Mae Rwsia wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri ei chysylltiadau economaidd gyda Thwrci a sgrapio prosiectau buddsoddi o fewn y dyddiau nesaf ar ôl i Dwrci saethu awyren filwrol Rwsiaidd i’r llawr.

Daeth y cyhoeddiad mewn datganiad wedi’i ddarlledu gan Y Prif Weinidog Dmitry Medvedev. Mae wedi rhoi gorchymyn i’r llywodraeth gyhoeddi sancsiynau yn erbyn Twrci o fewn y deuddydd nesaf.

Daw ei gyhoeddiad ddiwrnod yn unig ar ôl i gyfryngau Rwsia adrodd bod cannoedd o loriau’n cludo nwyddau o Dwrci i Rwsia wedi cael eu gadael yn aros wrth y ffin.

Esboniodd Dmitry Medvedev bod swyddogion ar hyd y ffin wedi bod yn craffu ar y nwyddau “am nifer o resymau” gan gynnwys bygythiad brawychol posib.

Dywedodd bod hyn yn “naturiol” o ystyried gweithredoedd diweddar Twrci.