Robert Mansfield a foddodd yn Llyn y Felin
Fe fydd crwner Sir Benfro yn ysgrifennu at y Cyngor Sir i leisio ei bryderon dros ddiogelwch o gwmpas Llyn y Felin ym Mhenfro ar ôl i dri o bobol foddi yno eleni.

Mae Mark Layton yn bwriadu holi a oes ‘na ffens ddigonol o amgylch y llyn ac am gael goleuadau a dyfeisiadau achub bywyd gerllaw.

Cafodd cwest ei gynnal bore ‘ma i farwolaeth Robert Mansfield. Fe foddodd y dyn ifanc lleol yn y llyn wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 18 oed ym mis Gorffennaf.

Dywedodd y Cyngor ei fod yn aros am lythyr y crwner ac y bydd yn ystyried ei gynnwys.

“Mae’r Cyngor yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o’r peryglon sydd o gwmpas Llyn y Felin a bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi’n fuan,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Rydym hefyd yn bwriadu gosod arwyddion yn rhybuddio pobol o’r perygl o gael haint gan facteria o’r dŵr ac yn cynghori yn erbyn nofio (yn y llyn).”