Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi derbyn dyfarniad llys am ddyled o £535 sydd heb gael ei thalu.

Mae chwiliad o gronfa ddata dyfarniadau’r llys sirol yn dangos y dyfarniad am y ddyled a gofrestrwyd i Boris Johnson yn “Rhif 10 Stryd Downing”.

Dyddiad y dyfarniad, a ddatgelwyd gyntaf gan gylchgrawn Private Eye, yw 26 Hydref y llynedd.

Nid yw’r cofnodion llys swyddogol yn nodi pwy yw’r credydwyr, na natur y ddyled.

Beilïaid i Rhif 10?

Mae gwefan y Llywodraeth yn rhybuddio y gellir anfon beilïaid os nad yw dyledion yn cael eu talu.

Gall banciau a chwmnïau benthyciadau hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i benderfynu a ddylid rhoi credyd neu fenthyciadau.

“Os ydych chi’n hwyr gyda’ch taliadau, gallech gael eich gorchymyn i ddychwelyd i’r llys ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol,” ychwanega’r wefan.

Mae’r dyfarniad yn golygu bod y llys wedi penderfynu’n ffurfiol bod yr arian yn ddyledus, yn ôl safle’r Llywodraeth.

Nid yw rhif 10 wedi ymateb eto i gais am sylwadau hyd yma.

Rhoddion

Daw hyn wrth i’r Prif Weinidog wynebu nifer o gwestiynau wrth i’r Comisiwn Etholiadol ymchwilio i weld a gafodd unrhyw rodd ei ddatgan yn gywir.

Mae Boris Johnson wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac wedi mynnu ei fod yn bersonol yn talu am y gwaith adnewyddu.

Fodd bynnag, mae wedi gwrthod dweud a gafodd fenthyciad cychwynnol ar gyfer y gwaith.

Mae prif weinidogion yn cael cyllideb o hyd at £30,000 y flwyddyn i adnewyddu eu fflat yn Stryd Downing, ond mae adroddiadau papur newydd wedi awgrymu bod costau Boris Johnson wedi cynyddu.

Dywedodd yr arglwydd Torïaidd, yr Arglwydd Brownlow, mewn e-bost a ddatgelwyd i’r Daily Mail ei fod yn rhoi rhodd o £58,000 i’r Ceidwadwyr “i dalu am y taliadau y mae’r blaid eisoes wedi’u gwneud ar ran yr ‘Ymddiriedolaeth Stryd Downing’ a fydd yn cael ei ffurfio’n fuan”.

Mae Boris Johnson Johnson hefyd yn cael ei archwilio gan gorff gwarchod “sleaze” Tŷ’r Cyffredin dros ei wyliau dadleuol ar ynys breifat Mustique dros y flwyddyn newydd.

Mae’r Comisiynydd Safonau Seneddol, Kathryn Stone, yn ymchwilio a gafodd y gwyliau £15,000 ei ddatgan yn gywir.

“Diwrnod arall, adroddiad arall o anghysondebau”

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Llafur Angela Rayner: “Diwrnod arall, adroddiad arall o anghysondebau pryderus iawn am adnewyddu fflat Boris Johnson.

“Nid yw hyn yn ymwneud â chyllid personol Boris Johnson, mae’r cofnod yn siarad drosto’i hun ei fod eisoes wedi torri’r rheolau ar ddatgan ei fuddiannau ariannol, ac mae eisoes yn destun ymchwiliad ynglŷn â chamweddau a allai fod yn anghyfreithlon.

“Y peth ydi gyda’r ddyled o ran y Prif Weinidog yw pa ddyled o ddiolchgarwch sydd arno Boris Johnson i’r rhoddwr Torïaidd a dalodd i adnewyddu ei fflat, a beth gafodd ei addo, neu beth mae’r rhoddwr neu roddwyr yn ei ddisgwyl yn ôl am eu haelioni.”

“Dim i’w weld yma” medd Boris Johnson am sgandal gwaith adnewyddu 10 Stryd Downing

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dweud bod “yna le i gredu bod i amau bod trosedd neu droseddau wedi’u cyflawni”.