Mae Siân Gwenllian, ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Arfon, yn dweud y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim i blant yng Nghymru.
Dywedodd Siân Gwenllian y byddai’r polisi’n canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol.
Ar ben hynny, byddai’n cael ei gyflwyno i ddechrau trwy ymestyn cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant cynradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
Byddai pob plentyn yn yr ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim cyn diwedd tymor cyntaf Plaid Cymru mewn llywodraeth, yn ôl Siân Gwenllian.
“Mae’r bwlch cyrhaeddiad yn her go iawn yng Nghymru. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cychwyn ar y gwaith pwysig o gau’r bwlch hwn gan ehangu’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, gan ddechrau gydag ymestyn cymhwysedd i bob plentyn cynradd o aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol,” meddai Siân Gwenllian.
“Erbyn diwedd tymor cyntaf llywodraeth Plaid, byddem yn ymestyn y cymhwysedd hyd yn oed yn fwy trwy gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gan fynd ymhellach nag unrhyw lywodraeth Lafur erioed.
“Gyda bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi a’r Llywodraeth Lafur ddiwethaf wedi dileu ei tharged o ddileu tlodi plant erbyn 2020, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r methiant hwn.
“Gall Cymru ddysgu gan genhedloedd bach eraill fel y Ffindir a Sweden sy’n rhoi pwyslais ar Brydau Ysgol Rydd fel buddsoddiad mewn dysgu effeithiol a datblygiad cynnar plant.
“Byddai cynllun prydau ysgol am ddim Plaid Cymru hefyd o fudd i’r gymdeithas ehangach, gan roi ffocws ar gefnogi ffermwyr a busnesau Cymru trwy hybu caffael lleol, a hyrwyddo buddion cynnyrch maethlon, cartref o ran iechyd, yr economi a’r amgylchedd.”
“Gwario’r un arian 10 gwaith drosodd”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Gyda Llafur Cymru, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth prydau ysgol am ddim drwy’r gwyliau – help yr ydym bellach wedi’i warantu tan Pasg 2022.
“Rydym wedi darparu dros £83m er mwyn sicrhau bod hyn ddigwydd. Mae hynny wedi cynnwys darparu prydau ysgol am ddim i 15,000 yn fwy o blant wrth iddynt ddod yn gymwys oherwydd yr argyfwng.
“Byddwn yn parhau i wneud mwy yn y tymor nesaf.
“Mae Plaid wedi gwario’r un arian 10 gwaith drosodd yn yr ymgyrch hon ac mae’n sarhad ar y teuluoedd hynny ei bod nhw’n addo rhywbeth rydych y maen nhw’n gwybod yn iawn na allan nhw ei gyflawni.
“Pan nad yw cyllid i Gymru erioed wedi gwella i lefelau 2010, diolch i lymder Torïaidd y Deyrnas Unedig, mae angen i’r Blaid egluro ble y byddent yn dod o hyd i’r £350m y mae’n ei gostio bob blwyddyn i gyflawni eu haddewid ar brydau ysgol am ddim.
“Mae angen iddyn nhw fod yn onest ynghylch a ydyn nhw’n cefnogi’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n llwyddo i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y plant tlotaf a phlant gwell eu byd yng Nghymru.
“Byddwn yn gwario £100m ar y grant hwnnw eleni, gan helpu’r plant hynny sydd ar brydau ysgol am ddim i gyrraedd eu potensial. Mae eisoes yn ein cyllideb. Gall ysgolion gynllunio arno.
“Mae Llafur Cymru yn gwneud addewidion uchelgeisiol i barhau i symud Cymru yn ei blaen.
“Mae Plaid [Cymru] yn parhau i gynnig rhestr o ddymuniadau nad yw’n sefyll i fyny wrth gael eu craffu.”