Mae Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi drysu’r Twitter-sffêr gyda’i weithredoedd – neu ddiffyg gweithredoedd – diweddar.
Prynhawn heddiw cafodd Rebecca Long-Bailey, yr Ysgrifennydd Addysg Cysgodol, ei diswyddo o’r cabinet cysgodol wedi iddi rannu erthygl ar Twitter.
Cyfweliad â’r actores Maxine Peake yw’r erthygl, ac mae cynnwys y darn wedi ei labelu yn wrth-Semitaidd gan rai – roedd penderfyniad Keir Starmer yn ymateb i hynny.
Ochr yn ochr â hyn, mae Arweinydd Llafur wedi bod yn gymharol dawel ynghylch honiadau yn gysylltiedig â Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Tai.
Er iddo roi’r sac i’w weinidog ei hun am ei thrydariad, nid yw wedi gofyn am ddiswyddiad y Ceidwadwr, ac mae hynny wedi denu cryn ymateb.
“Oni ddylet fod yn galw am sacio Robert Jenrick?” meddai Aelod Seneddol Llafur, Claudia Webbe, mewn trydariad sydd wedi ei gyfeirio at ei harweinydd.
Mae eraill yn fwy canmoladwy ac yn eu plith mae George Osborne, y cyn-Ganghellor. “Mae’r boi yma o ddifri ynghylch cyrraedd Downing Street”.
Mae ambell un yn dyfalu mai ymgais yw hyn i chwarae gêm y wasg, a sicrhau mai diswyddiad Rebecca Long-Bailey sydd ar frig y penawdau.