Mae Boris Johnson wedi dweud bod ganddo “hyder llwyr” yn ei Ysgrifennydd Cymunedau, Robert Jenrick, sy’n brwydro i gadw ei swydd ar ôl i ddogfennau ddatgelu graddau’r cyswllt rhyngddo ef a gŵr busnes cyn penderfyniad cynllunio.

Mae llwyth o ddogfennau a negeseuon testun, a ryddhawyd ar ôl pwysau gan yr wrthblaid, wedi dangos bod Richard Desmond, biliwnydd sydd wedi cyfrannu’n ariannol at y Torïaid, wedi annog Mr Jenrick i gymeradwyo cynllun datblygu yn nwyrain Llundain, gan ddweud nad oedd am weld “Marxwyr” yn cael “arian am ddim”.

Mae’r Blaid Lafur yn honni y byddai cymeradwyo’r cynllun cyn i ardoll seilwaith cymunedol Cyngor Tower Hamlets ddod i rym wedi arbed cwmni Mr Desmond, Northern and Shell, hyd at £50 miliwn ar y cynllun, oedd werth hyd at £1 biliwn yn ôl adroddiadau.

Rhodd o £12,000

Mewn e-bost sy’n rhan o’r papurau a ryddhawyd, nododd swyddog yn y Weinyddiaeth Dai fod yr Ysgrifennydd Gwladol am i Westferry gael ei gymeradwyo y diwrnod canlynol fel y byddai’n osgoi’r ardoll.

Rhoddodd Mr Desmond £12,000 i’r Torïaid bythefnos wedi i Westferry gael ei gymeradwyo gan Mr Jenrick.

Yn wreiddiol, rhoddodd yr Ysgrifennydd sêl bendith i’r datblygiad ym mis Ionawr 2020, gan newid penderfyniad a wnaed gan Gyngor Tower Hamlets ac arolygydd cynllunio. Wedi hynny, fe wnaeth wrthdroi’r dyfarniad yn dilyn camau cyfreithiol gan y Cyngor, gan gyfaddef bod yr hyn a wnaeth yn “anghyfreithlon oherwydd tuedd ymddangosiadol”.

Dim dylanwad amlwg

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Nadhim Zahawi, fod y dogfennau ffres wedi’u profi nad oedd unrhyw ddylanwad amlwg gan Mr Desmond, sy’n gyn-berchennog y Daily Express.

O dan bwysau i egluro pam y gallai dyn busnes cyfoethog gael mynediad o’r fath, dywedodd Mr Zahawi y gallai unrhyw un wneud hynny drwy fynychu digwyddiadau codi arian y Torïaid.

Ond pwysleisiodd Mr Zahawi nad oedd mynediad o’r fath “yn prynu’r penderfyniad i’r biliwnydd”.

“Arian am ffafr”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Mae’r Torïaid yn dweud y gall unrhyw un gael yr un mynediad at y Llywodraeth â Richard Desmond – y cyfan y mae’n rhaid iddynt ei wneud yw mynychu digwyddiadau codi arian crand a gobeithio y byddant yn eistedd wrth ymyl Aelod Seneddol.

“Mae’r sgandal ‘arian am ffafr’ wedi dangos yn amlwg bod rheol i’r Toriaid a’u ffrindiau cefnog, rheol arall i’r gweddill ohonom.”

“Mater wedi cau”

Fodd bynnag, pwysleisiodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog dro ar ôl tro fod Mr Johnson yn credu bod yr achos wedi’i gau.

“Mae’r PM wedi siarad gyda’r Ysgrifennydd Cymunedau,” meddai’r llefarydd, gan ddweud, yng ngoleuni’r hyn a ddwedwyd bod y Prif Weinidog “yn ystyried y mater wedi cau.”