Nid oes gan Lywodraeth Cymru amserlen ar gyfer ailagor tafarndai a bwytai, meddai’r Gweinidog Cyllid.
Dywedodd Rebecca Evans fod trafodaethau rhwng Gweinidogion a’r sector lletygarwch yn parhau, ond nad oedd modd rhoi manylion am lacio rhai mesurau oherwydd ansicrwydd ynghylch lledaeniad y coronafeirws yn ystod yr wythnosau nesaf.
Daw hyn wrth i felin drafod ym maes iechyd ddangos bod y coronafeirws yn cilio’n arafach yng Nghymru o’i chymharu â gweddill gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig. Yma hefyd mae’r gyfradd gronnol uchaf o achosion ar gyfer canol mis Mehefin.
Ar hyn o bryd, Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi amserlen ar gyfer ailagor busnesau lletygarwch, ac mae hyn wedi arwain at feirniadaeth, gan y Ceidwadwyr yn enwedig, sy’n dweud y gallai peidio â rhoi amserlen niweidio’r economi ac arwain at golli swyddi.
Bydd tafarndai dros y ffin yn Lloegr ailagor o Orffennaf 4 ymlaen.
Dywedodd Rebecca Evans wrth sesiwn friffio ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Iau (25 Mehefin) na ellid rhoi amserlen fanwl ar gyfer rhai mesurau “oherwydd ei bod hi’n anodd iawn gwybod ble bydd y coronafeirws yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf”.
Ychwanegodd: “Ni allaf roi amserlen na dyddiad ond rwyf am eich sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth â’r sector lletygarwch.”
Galwodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones, ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i gyhoeddi cynlluniau’r Llywodraeth ddydd Gwener, gan ddweud ei bod am gael amserlen debyg i’r Alban “os yw’n ddiogel gwneud hynny”.
Dywedodd: “Byddwn yn croesawu dull tebyg i’r Alban, lle mae ardaloedd awyr agored ar fin ailagor ar 6 Gorffennaf, cyn i gwsmeriaid gael mynd y tu fewn ar 15 Gorffennaf.
“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn credu bod hyn yn bosib, byddwn yn chwilio am amserlen arall i’w chadarnhau cyn gynted â phosibl.
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson yn ein neges mai iechyd y cyhoedd ddylai ddod yn gyntaf, ond mae ein heconomi yn eistedd ar ymyl y dibyn ac nid ydym erioed wedi cael arwydd cliriach y gallai fod yn ddiogel i weithredu i’w achub.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi ymrwymiad y dydd Gwener hwn ynghylch pryd y gall bariau a bwytai ailagor o’r diwedd.
“Os nad oes cyhoeddiad, rydym yn wynebu’r perygl gwirioneddol y bydd llawer yn y sector yn penderfynu dileu swyddi, neu’n waeth, gael eu gorfodi i gau. Mae angen sicrwydd o ran amserlenni arnom, cyn iddi fod yn rhy hwyr. ”
Dywedodd y felin drafod annibynnol, Ymddiriedolaeth Nuffield, ddydd Iau fod y dadansoddiad hwnnw’n dangos mai Cymru sydd â’r dirywiad arafaf o Covid-19 o’i chymharu â rhannau eraill o’r DU, yn ogystal â’r nifer uchaf o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth.