Heddiw, Mehefin 24, mae’r Gweinidog Cysgodol Adfer Covid, Darren Millar, wedi cwestiynu penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ynghylch ysgafnhau’r cyfyngiadau clo, gan awgrymu y dylai Cymru ddilyn patrwm rhannau eraill o Brydain.

Yn ôl Darren Millar mae Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi ein heconomi a’n swyddi mewn perygl “drwy lusgo y tu ôl i rannau eraill o’r DU wrth godi’r clo”.

Daeth ei alwad wrth i’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon lacio’r cyfyngiadau’n gynt na Chymru.

Dywedodd Mr Millar: “Bydd Cymru’n ei chael hi’n anodd i ail godi o sioc economaidd y pandemig coronafeirws os na fydd newid yn y polisi i warchod bywoliaeth yn ogystal â bywydau” meddai’r Gweinidog.

“Er ein bod ar hyn o bryd yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus uniongyrchol, ni ellir tanbrisio canlyniadau tymor hir tlodi ar iechyd ein cenedl.

“Felly mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r gorau i chwarae catch-up a mabwysiadu dull sy’n cyd-fynd yn agosach â Gogledd Iwerddon a llywodraethau’r Alban a’r Deyrnas Unedig cyn gynted â phosibl.”