Albert Owen
Jamie Thomas sydd wedi bod yn sgwrsio ag Albert Owen o’r Blaid Lafur, yr olaf mewn cyfres o erthyglau i golwg360 yn holi’r ymgeiswyr yn ras etholiadol Ynys Môn …

Mae ymgeisydd Llafur ar gyfer Ynys Môn wedi mynnu fod ganddo bopeth sydd ei angen i sicrhau’r dyfodol orau i drigolion yr ynys a’i fod yn hyderus y bydd ei ymgyrch yn llwyddo.

Pwysleisiodd Albert Owen wrth Golwg360 bod ganddo’r “cofnod gorau, a maniffesto positif” a’i fod yn “ddyn o’r ardal sydd eisiau cefnogi a chynrychioli Ynys Môn yn gyntaf”.

Does dim syndod bod yr ymgeisydd Llafur, gafodd ei ethol fel AS yn 2001, mor hyderus wrth i’r etholiad agosáu achos dim ond unwaith yn hanes yr ynys mae ymgeisydd wedi methu a chadw’i sedd.

Ond mae disgwyl i’r etholaeth fod yn un hynod o gystadleuol rhwng Llafur a Phlaid Cymru – Plaid oedd gyda’r sedd am flynyddoedd cyn i Albert Owen ennill.

Gweledigaeth bositif i Fôn

Yn ogystal â rhestru beth mae’n falch o fod wedi ei gyflawni fel Aelod Seneddol dros y blynyddoedd, mae Albert Owen yn mynnu bod ganddo weledigaeth ar gyfer dyfodol yr ynys

“Fi sydd wedi bod yn arwain efo’r ymgyrch Wylfa Newydd er enghraifft, yn y dechrau roedd Plaid Cymru yn ei erbyn, ac mae hwnna’n rhan fawr o’r dyfodol, nid dim ond yn Sir Fôn ond yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan hefyd,” meddai’r ymgeisydd Llafur.

“Dw i wedi bod yn gweithio’n galed iawn ar hwn am dros bum mlynedd rŵan, dw i ‘di bod yn gweithio hefo’r Cynulliad i wneud yn siŵr fod ‘na adran sgiliau yng Ngholeg Menai – mae cael y sgiliau yn rhywbeth andros o bwysig ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd bod ganddo gynlluniau pwysig i ddatblygu’r ardal a’r prosiectau o gwmpas Caergybi yn y tymor byr.

“Mae’r eco-park sydd yn dod tu allan i Gaergybi yn rhywbeth rydw i wedi arwain, mae pleidiau eraill wedi dweud fod o ddim am ddŵad – ond mae o am ddŵad.

“Dw i ‘di canolbwyntio ar y transport hub yng Nghaergybi ac mae hwnna’n dechrau rŵan, a hefyd ar dwristiaeth fi ‘di’r unig un sydd wedi cwffio dros hwnna.

“Hwn ‘di’r dyfodol dw i eisiau gweld i bobl Sir Fôn, cael y cydbwysedd yn iawn trwy ddatblygu sgiliau mewn ynni a thrafnidiaeth, ond hefyd mewn twristiaeth.”

‘Pobl eisiau cynrychiolwr lleol’

Yn ôl Albert Owen, dyw’r pleidiau eraill ddim wedi bod yn trafod un o flaenoriaethau pwysicaf yr ynys yn ei farn ef ar y stepen ddrws.

“Dydi’r pleidiau eraill ddim yn siarad am Wylfa, ond mae’r bobl yn siarad am hynny, amddiffyn RAF Fali a’r dreth ‘stafell wely ac rydan ni eisiau cael gwared â hwnnw.

“Mae pobl eisiau newid ond hefyd maen nhw eisiau gwybod sut mae pethau yn mynd ymlaen o fan hyn. Mae gen i lot o brofiad rŵan, yr egni a’r sgiliau i gynrychioli pobl Môn, a phob person o Fôn.

“Mae pethau wedi newid, mae pobl yn dechrau ethol ymgeiswyr ar sail beth maen nhw am wneud i’r ardal gyntaf ac nid beth mae’r blaid am ei wneud i’r wlad gyntaf, a dw i’n credu mai fi ydi’r person gorau i gynrychioli beth mae’r bobl yma eisiau am y pum mlynedd nesaf.”

Plaid yn “rhy hyderus”

Yn ôl Albert Owen, mae Plaid Cymru yn llawer rhy hyderus ar hyn o bryd o ail-gipio’r sedd wnaethon nhw ei golli yn 2001.

“Dydi o ddim yn poeni fi. Doedden nhw ddim yn meddwl y bysa nhw’n ei golli o yn 2001 ac mi wnaethon nhw,” meddai Albert Owen.

“Mae Plaid Cymru yn dweud un peth a gwneud rhywbeth arall, mae Leanne Wood wedi bod yma sawl gwaith ond mae Carwyn Jones wedi bod yma hefyd.

“Ond mae hi wedi bod i Arfon hefyd a dw i’n meddwl eu bod nhw’n poeni lot am gadw’r sedd yna.”

Does ganddo ddim llawer i’w ddweud chwaith am awgrym y Democratiaid Rhyddfrydol bod angen newid ar yr ynys.

“Maen nhw i gyd yn dweud hynny achos eu bod nhw eisiau ennill ond newid i be? Mae gen i record mewn llywodraeth yn cyflwyno prosiect Wylfa Newydd, yn cyflwyno gwaith ar y porthladd yng Nghaergybi i wneud yn siŵr bod ni dal yn un o’r prif borthladdoedd ym Mhrydain,” mynnodd yr ymgeisydd Llafur.

“Dw i eisiau newid pethau i’r gorau, dydi pethau ddim yn berffaith. Roedd Mark Rosenthal yn dweud ei fod yn erbyn Wylfa ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol o’i blaid o.

“Mae Ed Miliband o blaid Wylfa, mae Plaid Cymru fel plaid wedi eistedd ar y ffens hefo pethau fel Wylfa a fedrwch chi ddim gwneud hynny efo mater mor bwysig.”

Cydraddoldeb â’r Alban

Mynnodd Albert Owen bod anghysondeb hefyd yn safbwynt Plaid Cymru ynglyn ag eisiau rhagor o arian i Gymru, un neges gan y blaid sydd yn ymddangos fel petai wedi taro tant â’r etholwyr.

“Mae Plaid yn trio cael y ddadl yma yn seiliedig ar y ffaith bod yr SNP wedi gneud eu gorau i’r Alban. Rydan ni’n cael £1.5bn allan o’r Undeb Ewropeaidd nad ydi’r Alban yn cael felly mae hwn yn fater cymhleth iawn,” meddai Albert Owen.

“Dw i ’di gofyn i Plaid am hyn – beth yn union maen nhw eisiau? Ydyn nhw eisiau i’r Alban gael llai? Os mai na ydi’r ateb, o le mae’r pres ychwanegol i ni [o £1.2biliwn] am ddod?

“Mae Comisiwn Holtham wedi dweud bod ‘na ddiffyg o £300m. Rydan ni am roi £375m y flwyddyn i Gymru os ydi Llafur yn dod i rym y tro yma.

“Dw i ddim eisiau cydraddoldeb hefo’r gwledydd eraill. Dw i eisiau mwy na mae pobl eraill yn ei gael a dyna pam dw i’n cwffio dros Ynys Môn drwy’r adeg i gael y gorau mae’r ynys yma yn gallu ei gael.”

Mae Jamie Thomas wedi siarad â’r holl ymgeiswyr yn etholaeth Ynys Môn yn ystod yr ymgyrch.

Gallwch ddarllen ei sgyrsiau ag ymgeisydd UKIP Nathan Gill yma ac yma, ei sgwrs â’r ymgeisydd Ceidwadol Michelle Willis yma, ei sgyrsiau ag ymgeisydd Plaid Cymru John Rowlands yma ac yma, a’i sgwrs ag ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Mark Rosenthal yma.