Safle'r ddamwain yn yr Alpau yn Ffrainc
Roedd y cyd-beilot wnaeth blymio awyren Germanwings yn fwriadol i ochr mynydd yn yr Alpau wedi ymarfer ei gynllwyn ar daith flaenorol y diwrnod hwnnw, yn ôl adroddiad newydd.
Roedd Andreas Lubitz, 27, wedi cloi’r capten allan o gaban y peilotiaid cyn achosi’r ddamwain ar 24 Mawrth.
Yn yr adroddiad gan Asiantaeth Damweiniau Awyr Ffrainc, datgelwyd bod Andreas Lubitz wedi gwneud i awyren arall yr oedd yn ei hedfan ddisgyn am gyfnod y bore hwnnw, cyn ei harwain yn ôl i’w llwybr gwreiddiol.
Digwyddodd hyn bum gwaith mewn cyfnod o bedwar munud a hanner ac mae’n debyg bod y peilot wedi gadael y caban bryd hynny hefyd.
Bu farw pob un o’r 150 o deithwyr ar yr awyren A320 Airbus, gan gynnwys tri Phrydeiniwr, wrth hedfan o Barcelona i Dusseldorf.
Roedd Andreas Lubitz wedi dioddef o iselder difrifol yn y gorffennol ac roedd cyfrifiadur a ddaethpwyd o hyd iddo yn ei gartref yn dangos ei fod wedi defnyddio’r rhyngrwyd i chwilio am ffyrdd o gyflawni hunanladdiad yn y dyddiau wnaeth arwain at y ddamwain.