Hywel Williams -a fydd yn cadw gafael ar y sedd?
Ifan Morgan Jones sy’n dyfalu mewn sedd allai fynd y naill ffordd…
Roedd hi’n brofiad rhyfedd teithio o adref yng Ngheredigion ar ôl hoe’r Pasg a dychwelyd i’m gwaith yn Arfon. Does dim hanner cymaint o ‘fwrlwm’ etholiadol ymddangosiadol yma, er mai dyma’r sedd sy’n fwyaf tebygol o newid dwylo mewn gwirionedd.
Tra bod bob llwyn yng Ngheredigion mor llawn o arwyddion gwyrdd ac oren ac ydynt o gennin pedr, dan y wyneb y mae’r ymrafael yn digwydd fan hyn.
Does neb yn siŵr iawn beth fydd yn digwydd yma ar 7 Mai – gan gynnwys Plaid a Llafur. Nid yw’r polau piniwn cenedlaethol o ryw lawer o ddefnydd i ni wrth ddarogan y canlyniad yma.
Mae Leanne Wood eisoes wedi datgan ei phryder bod y sedd yn y fantol, ac mae’r ffaith i’r Blaid gynnal eu cynhadledd yma’n awgrymu mai dal eu tir yw’r flaenoriaeth yn hytrach nag ehangu eu gorwelion yng Ngheredigion, Llanelli neu Ynys Môn.
Roedd hon yn sedd newydd yn 2010, ac fe ennillodd Plaid hi o ychydig dros fil o bledleisiau. Dyma un o seddi lleiaf y Deyrnas Unedig, ac felly mae bob pleidlais wirioneddol yn cyfri’. Yn ôl gwefan Voter Power, pleidleiswyr Arfon yw’r ail mwyaf grymus yn y Deyrnas Unedig, ar gwt Gorllewin Casnewydd.
Gellid amcangyfrif y byddai Llafur wedi ei hennill ar adegau yn y degawdau diwethaf, pan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan, pe bai wedi bodoli bryd hynny.
Ffactor arall o blaid Llafur yw bod eu hymgeisydd Alun Pugh, sy’n ddringwr brwdfrydig, wedi bwrw ati gyda’r un awch a phe bai’n esgyn at gopa Everest, gan dreulio dros flwyddyn yn canolbwyntio’n llawn amser ar y ras etholiadol.
Bydd y ffaith mai dyma’r ail waith iddo gystadlu yn Arfon hefyd yn debygol o fod o gymorth iddo. Nid ymgeisydd wedi ei barasiwtio i mewn ar y ffordd i borfeydd brasach mohono.
Ar y llaw arall gellid cyfeirio at fuddugoliaeth ysgubol Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn drws nesaf, a’r ffaith i Blaid Cymru gael rhagor o sylw yn y wasg nag yn 2010 yn sgil y dadleuon teledu.
Gellid dadlau hefyd y bydd Hywel Williams yn ennill pleidlais ychwanegol fel deiliad y sedd ym Mangor, nad oedd ganddo yn 2010.
Rhaid ystyried effaith UKIP yn ogystal. Yn Etholiadau Ewrop 2014 fe gafodd pleidlais Llafur ei wasgu yma gan blaid Nigel Farage, tra bod pleidlais Plaid Cymru wedi parhau’n gymharol iach.
Pleidlais y myfyrwyr
Mae’r ffaith bod tua 30% o boblogaeth Bangor yn fyfyrwyr hefyd yn cymhlethu pethau wrth geisio darogan pa ffordd aiff y sedd.
Fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 14% o’r bleidlais yma yn 2010. A fydd cefnogwyr naturiol y blaid honno yn y gorffennol yn penderfynu ochri gyda’r Blaid Lafur y tro hwn oherwydd eu haddewid i ostwng ffioedd i fyfyrwyr yn Lloegr?
O siarad gyda rhai o’r myfyrwyr eu hunain, daw’n amlwg eu bod nhw wedi eu canfasio yn aml iawn gan y Blaid Lafur. Dywedodd un ei fod wedi cwrdd ag Alun Pugh tair gwaith allan ar y stryd.
Serch hynny, bydd yr etholiad wythnos ar ôl eu darlithoedd terfynol. Faint ohonynt fydd wedi ffarwelio am adref erbyn hynny, yn enwedig o ystyried bod llai o arholiadau nag oedd, a’r gallu i gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein yn dod yn fwyfwy cyffredin?
O’r myfyrwyr a siaradais i â nhw, doedd sawl un ddim yn gwybod pryd oedd yr etholiad, a’r ychydig a oedd wedi cofrestru wedi gwneud hynny adref. Mae’n amhosib, wrth gwrs, gwybod a oedd hwn yn sampl cynrychiadol.
Plaid Cymru yw’r ffefrynnau yma o hyd, a hynny o drwch blewyn.
Ond os bydd Llafur yn cipio’r sedd yn oriau mân y bore 8 Mai o ychydig gannoedd o bleidleisiau, ni fyddai yn llawer o sioc i neb.