Tudalen flaen y Cambrian News
Ifan Morgan Jones sy’n holi pa effaith gaiff sylwadau ymgeisydd Plaid Cymru yn y sir ar ei obeithion yn yr Etholiad Cyffredinol…

Ar yr olwg gyntaf mae’n swnio fel ffilm Indiana Jones wedi ei ysgrifennu gan T Llew Jones. Serch hynny mae ‘Plaid Cymru a Natsiaid Ceredigion’ yn bwnc llosg yn y byd gwleidyddol y bore ma.

Mae’r Cambrian News yn gwerthu sawl argraffiad gwahanol o Fachynlleth i dde Ceredigion, ond mae pob un yn cario’r un pennawd tudalen flaen yr wythnos hon, sef bod ymgeisydd Plaid Cymru’r sir, Mike Parker, wedi cymharu mewnfudwyr â Natsiaid.

O dyrchu ychydig ymhellach i’r ffeithiau, daw’n amlwg nad yw’r sylwadau eu hunain cynddrwg ag y mae’r pennawd yn ei awgrymu:

  • Ysgrifennwyd y sylwadau 14 mlynedd yn ôl yn rhifyn Awst Cylchgrawn Planet 2001.
  • Nid yw’n cyfeirio’n uniongyrchol at Natsiaid yn yr erthygl (er gwaethaf y dyfynodau yn y pennawd), ond yn hytrach at ‘gun-toting Final Solution crackpots’.
  • Mae’n amlwg o ddarllen yr erthygl nad yw’n taenu pawb gyda’r un brwsh – ‘sprinkling’ o’r bobl yma sy’n trigo yng nghefn gwlad Ceredigion, meddai.
  • Mae ei sylwadau yn ymddangos yng nghyd-destun trafodaeth ar arweinydd y BNP, Nick Griffin.

Serch hynny’r pennawd niweidiol yw “Incomers are ‘Nazis’, says would-be MP”. A’r is-bennawd ‘Plaid candidate defends criticism of English’.

Ychydig a fydd yn mynd i fanylder wrth ddarllen papur newydd. Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr yn edrych ar y pennawd, ac efallai’r intro, a dyna ni.

Llai byth fydd yn tyrchu am hen gopiau o Planet i gael y cyd-destun llawn.

Dim ymddiheuriad

Pe bai Mike Parker wedi nodi’n glir yn y papur mai lleiafrif yn unig a gyfeirir ato mae’n berffaith bosib y gallai fod wedi osgoi pennawd mor niweidiol.

Yn anffodus, yn hytrach nag ymhelaethu ar ei sylwadau, yr unig eglurhad a geir ganddo/ganiateir iddo yn y Cambrian News yw dweud: “The point I was making is

defnitely still valid.”

Erbyn hyn mae wedi ychwanegu at y sylwadau rheini ar Facebook: “Dydw i erioed wedi dweud nac awgrymu mai dyma barn mwyafrif y bobl sy’n symud i ardaloedd gwledig, ond doedd y niferoedd ddim yn bitw, a dydw i erioed wedi bod ofn gwrthwynebu rhagfarn ym mha bynnag lle y bo.

“Fy nicter at yr agweddau hiliol oedd y tu ôl i ieithwedd liwgar fyddwn i ddim yn ei ddefnyddio nawr – ond rwy’n dal i fod o’r farn na ddylid anwybyddu na derbyn hiliaeth; dylid ei daclo.”

Y dasg i Mike Parker a thîm cysylltiadau cyhoeddus Plaid Cymru yn awr fydd newid y naratif yn y wasg, o ddyn yn galw mewnfudwyr yn Natsiaid i ddyn yn herio hiliaeth cefn gwlad.

Fe fydd ei sylwadau yn fêl ar fysedd rhai o elynion Plaid Cymru, am ei fod yn gweddu i’w darlun nhw ohonynt fel plaid sy’n chwyrn yn erbyn mewnfudo – yn hiliol eu hunain, mewn gwirionedd.

Yn wir, roeddwn i wedi ystyried pan ddewisiwyd Mike Parker yn ymgeisydd Plaid Cymru a fyddai ei wrthwynebwyr yn cymryd mantais o’r hyn a ysgrifennwyd mewn llyfrau megis Neighbours From Hell?: English Attitudes to the Welsh.

Ni ddigwyddodd hynny, a daethom i’r casgliad bod y ffaith ei fod ef ei hun yn frodor o Loegr yn wreiddiol yn golygu bod ganddo rwydd hynt i ddweud ei farn ar y mater.

I’r gwrthwyneb, daw’n amlwg bod rhywun wedi bod yn tyrchu drwy ei lyfryddiaeth ac wedi disgwyl nes mis olaf ymgyrch yr etholiad i lansio’r taflegrau – ‘October Surprise’ cas ar ei gyfer, o fenthyg y jargon wleidyddol Americanaidd.

Faint o effaith ar Geredigion?

Gellid dadlau na fydd sylwadau Mike Parker yn gwneud cymaint â hynny o niwed i’w obeithion o gael ei ethol.

Wedi’r cyfan, fe fydd y bobl a oedd wedi bwriadu pleidleisio drosto, y Cymry Cymraeg a’r Saeson ‘gwyrdd’ adain-chwith, yn fwy tebygol o gytuno gyda’i sylwadau am wleidyddiaeth adain dde rhai mewnfudwyr, os yw Plaid yn llwyddo i’w esbonio yn ddigonol.

Serch hynny, rwy’n dyfalu mai rhan o fwriad Plaid Cymru wrth ddewis Mike Parker yn ymgeisydd oedd ymestyn eu cefnogaeth y tu hwnt i’w cefnogwyr naturiol.

Nodais mewn blog fis diwethaf mai ryw 1,000 o bleidleisiau fyddai ynddi, pe bai popeth yn mynd o blaid Mike Parker.

Hyd yn oed pe bai’r erthyglau hyn ddim ond yn gwthio ychydig gannoedd o bleidleisiau o gorlan i blaid i gorlan y Democratiaid Rhyddfrydol, fe allai gael effaith pendant ar y canlyniad.

Fe fydd yna bryderon hefyd gan Blaid Cymru i ba raddau y gallai’r sylwadau niweidio enw da’r blaid yn genedlaethol.

Roedd tudalen flaen y Cambrian News yn cael ei ail-drydar gan rai o enwau cenedlaethol y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol neithiwr ac y bore ma.

Daw’n amlwg bod pleidiau eraill yn pryderu am y sylw a gafodd Leanne Wood yn sgil y dadleuon teledu’r wythnos diwethaf, ac yn awyddus i atal unrhyw ‘fomentwm’ pellach sydd gan y Blaid.

Bydd rhai yn siŵr o ystyried tudalen flaen y Cambrian News yn fodd o gyflawni hynny.

Diweddariad: Nid dyma’r tro cyntaf i’r ysgrif yn Planet ddal sylw’r wasg – roedd yn destun erthygl yn y Telegraph ar ôl ei gyhoeddi yn 2001.

Mae’n ddiddorol bod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu ei sylwadau bryd hynny. Ond mae hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â pham nad oedden nhw wedi paratoi cynllun ar gyfer y posibilrwydd y gallai’r un sylwadau ddod i’r fei unwaith eto.