Mae adroddiad sydd wedi cael ei gomisiynu gan elusen Marie Curie yn awgrymu nad oes digon o ofal ar gael i gleifion sydd â salwch terfynol.
Yn ôl yr adroddiad, pobol groenddu, Asiaidd, pobol dros 85 oed, a phobol sy’n byw mewn tlodi sy’n dioddef waethaf.
Dydy cleifion sy’n dioddef o salwch ac eithrio canser ychwaith ddim yn derbyn digon o ofal gan staff arbenigol, ac maen nhw’n derbyn llai o ofal gan feddygon teulu a nyrsys rhanbarthol nag y dylen nhw fod.
Er bod 70% o farwolaethau o ganlyniad i salwch ac eithrio canser, dim ond 20% o bobol sydd angen gofal arbenigol sy’n cael eu trosglwyddo i’r gwasanaethau priodol – a’r cleifion hynny’n dioddef yn bennaf o ddementia a salwch yr ysgyfaint.
Gallai darparu gofal arbenigol arwain at arbedion gwerth £2m yng Nghymru.
Gofal diwedd oes
Yn ôl yr adroddiad, byddai 6,100 yn ychwanegol o bobol yng Nghymru yn elwa o gael gofal arbenigol nad ydyn nhw’n ei dderbyn ar hyn o bryd.
Mae elusen Marie Curie wedi mynegi pryder am safon gofal diwedd oes yn gyffredinol wrth i amcangyfrifon awgrymu y gallai nifer y bobol sy’n byw dros eu 85 oed ddyblu yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.
Dywedodd awdur yr adroddiad, Josie Dixon: “Rhan o’r broblem yw bod gofal diwedd oes yn draddodiadol ar gyfer pobol â chanser ac mae diffyg modelau addas ar hyn o bryd o ofal diwedd oes ar gyfer pobol â salwch nad yw’n ganser a chyflyrau sy’n gynyddol gymhleth.
“Gall gofal diwedd oes leihau symptomau a phoen, a helpu pobol i farw pan maen nhw am farw.”
‘Nid yw’n ddigon da’
Ychwanegodd fod pwysigrwydd cartrefi gofal ar gynnydd, ond bod angen iddyn nhw dderbyn cymorth gan feddygon teulu ac arbenigwyr er mwyn cyflawni eu rôl.
Dywedodd prif weithredwr elusen Marie Curie, Dr Jane Collins: “Dylai pawb sy’n cael eu heffeithio gan salwch terfynol gael mynediad i’r holl ofal a chefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw, waeth bynnag am eu hamgylchiadau personol.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos nad dyma’r gwirionedd a bod rhai grwpiau’n waeth eu byd nag eraill. Dydyn ni ddim yn meddwl bod hyn yn ddigon da.”