Llun o'r fideo yn dangos Walter Scott yn rhedeg i ffwrdd o'r plismon, Michael Slager
Mae plismon gwyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn croenddu yn nhalaith De Carolina yn yr Unol Daleithiau.
Ymddangosodd fideo o’r digwyddiad, ac mae’r plismon yn cael ei weld yn saethu’r dyn 50 oed, Walter Scott nifer o weithiau yn ei gefn wrth iddo redeg i ffwrdd.
Cafodd y cyhuddiad ei gyhoeddi mewn cynhadledd i’r wasg yn y dalaith, ac fe ddywedodd Maer Gogledd Charleston, Keith Sumney fod y plismon, Michael Slager wedi gwneud “penderfyniad gwael”.
Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau rhwng dynion croenddu a’r heddlu yn yr Unol Daleithiau.
Eisoes, fe fu farw Michael Brown yn Ferguson, Missouri ac Eric Garner yn nhalaith Efrog Newydd, ac fe arweiniodd marwolaethau’r ddau at brotestiadau ar draws yr holl daleithiau.
Ychwanegodd Keith Sumney: “Pan ydych chi’n anghywir, rydych chi’n anghywir.
“Pan ydych chi’n gwneud penderfyniad gwael, does dim ots a ydych chi y tu ôl i darian neu’n un o drigolion y stryd, rhaid i chi fyw gyda’r penderfyniad hwnnw.”
Cafodd Walter Scott ei lorio gan yr wythfed fwled, cyn cael ei roi mewn cyffion.
Yn ôl adroddiadau, mae’n bosib fod Walter Scott wedi rhedeg i ffwrdd o’r heddlu gan nad oedd e wedi talu cymhorthdal ar gyfer ei bedwar o blant, sy’n drosedd all arwain at gyfnod yn y carchar.
Dywedodd cyfreithiwr teulu Walter Scott fod yr unigolyn oedd wedi creu fideo o’r digwyddiad yn “arwr”.
Awgrymodd y cyfreithiwr fod y teulu’n bwriadu dwyn achos yn erbyn yr heddlu.