Dafydd Elfryn
Dafydd Elfryn sy’n rhannu rhai o’i graffiau ar doriadau diweddar i gyllidebau awdurdodau lleol ar flog golwg360 …
Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru faint o doriad cyllid sydd yn wynebu’r cynghorau yn 2015-2016.
Dw i wedi defnyddio’r ffigyrau hynny i drio mapio’r effaith ar draws Cymru.
Y toriadau
Ar hyn o bryd, mae’r llywodraeth y rhannu allan ychydig llai na £4.3biliwn y flwyddyn i gynghorau Cymru, sydd yn o gwmpas 75% o’i chyllideb lawn.
Yn y flwyddyn 2015-2016, bydd y ffigwr yma yn gostwng i lai na £4.2 biliwn. Mae’r toriadau diwethaf yma yn cyfateb i golled o £0.15 biliwn, neu 3.4% o gyllideb 2014-15.
Dyw’r toriadau ddim yr un peth i bob sir, gyda Cheredigion, Powys, Conwy a Sir Fynwy yn derbyn y toriadau uchaf (4.5%, 4,4% ac 4.3%).
Mae’r arian mae pob Cyngor yn ei golli yn dibynnu ar y gyllideb wreiddiol.
Gall cyngor â chyllideb fawr golli mwy o arian gyda thoriad bach, tra bod cyngor gyda chyllideb fach yn cael toriad mawr!
Mae’r siart cyntaf isod yn dangos yr arian mae pob Cyngor yn mynd i golli yn sgil y toriadau:
Ystyried y boblogaeth
Wrth edrych ar y siartiau canran, mae i weld yn annheg fod Caerdydd yn derbyn dros 10% o’r gyllideb.
Mae hynny’n fwy na chyfanswm cyllideb Ceredigion, Sir Fynwy, Ynys Môn a Merthyr Tudful gyda’i gilydd.
Y gwir yw bod pob sir yn wahanol iawn o ran eu demograffiaeth.
Mae’r fformiwla mae’r Llywodraeth yn ei ddefnyddio i gyfrifo’r rhaniad yn ystyried nifer o ffactorau, er enghraifft nifer y plant, diweithdra, nifer ar fudd-daliadau ayyb.
Heb fynd i’r un fath o gymhlethdod, i drio cael darlun mwy clir, defnyddiais ffigyrau poblogaeth pob sir (data o wefan StatsCymru yma) i gyfrifo faint o arian y pen mae trigolion pob sir yn eu cael – a pha effaith fydd y toriadau yma yn ei gael.
Mae’r map isod yn dangos cyllideb y pen pob sir cyn ac ar ôl y toriadau:
Wrth ystyried y boblogaeth, ‘da ni’n gweld mai Blaenau Gwent, Rhondda a Merthyr sydd ar y brig (Mae Caerdydd ar waelodion y rhestr).
Mae’r colledion yn rhedeg o £35.74 y pen yng Nghastell-nedd i £61.03 y pen ym Mhowys.
Gan ddefnyddio’r data poblogaeth felly, da ni’n gweld mai Powys sydd ar ei golled fwyaf (colled o £61.03 y pen) gyda Cheredigion a Conwy yn ail a thrydydd (£60.55 a £58.69).
Pa blaid sy’n ennill?
Er bod y toriadau yma yn effeithio pob sir yng Nghymru, mi wnes i edrych i weld os oedd unrhyw blaid yn elwa fwy na’r llall. Mae hyn yn codi oherwydd bod dipyn o ddadleuon ar y we bod y toriadau wedi cael ei rhannu i elwa’r blaid Lafur.
Yn gyntaf, mi wnes i edrych i weld pa blaid oedd gyda’r mwyafrif ymhob sir (dyw hyn ddim yn golygu mai’r blaid yna sydd yn rheoli’r Cyngor, gan fod nifer yn gweithio mewn clymblaid).
Mae’r nifer fwyaf o gynghorwyr yn Ynys Môn, Conwy, Powys a Sir Benfro’n Annibynnol; mae’r nifer fwyaf yng Ngwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin yn Blaid Cymru; Sir Fynwy yw’r unig un â mwy o Geidwadwyr nac unrhyw blaid arall; ac mae pob sir arall yng Nghymru yn Llafur.
Gan gymryd cyfartaledd cyllid y pen pob sir sy’n perthyn i bob plaid, mi fedrwn ni gyfrifo cyllid y pen i gynghorau pob plaid. Dyma’r canlyniad:
Mae’r data i weld yn cadarnhau bod Llafur yn elwa yn well ar ôl y toriadau – gyda cholled y pen y flwyddyn o £44.83!
Ond, cyn i ni fynd lawr i Fae Caerdydd i brotestio, rhaid cofio fod Llafur yn cynrychioli’r mwyafrif yn fwy na hanner siroedd Cymru, felly efallai ei fod yn annheg eu beirniadu ar y ffigyrau yma (e.e. mae’r Rhondda yn fwyafrif Llafur, gyda cholled y pen o £56.75 – tra mae Sir Fynwy yn fwyafrif Ceidwadwyr gyda cholled o £45.60).
Yn y diwedd, pa bynnag blaid neu sir sy’n dod allan orau, y gwir yw bod pob Cyngor yn wynebu amser caled, a bydd penderfyniadau anodd yn cael ei gwneud bydd yn effeithio ar bob un ohonom!
Gallwch weld rhagor o fapiau a graffiau Dafydd Elfryn am y toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol drwy ddilyn y linc hwn i’w flog.