Nida Naseer
Mae crwner wedi dweud bod marwolaeth merch 18 oed ger Casnewydd yn parhau’n ddirgelwch.

Diflanodd Nida Naseer o’i chartref fis Rhagfyr diwethaf yn dilyn ffrae gyda’i theulu dros yr hyn yr oedden nhw’n ei alw’n “anghydweld diwylliannol”.

Gadawodd Nida ei chartref yn droednoeth yng nghanol y nos, a daethpwyd o hyd i’w chorff mewn gwlyptir dri mis yn ddiweddarach.

Clywodd y cwest y gallai hi fod wedi cwympo oddi ar bont i mewn i afon Wysg ond doedd ganddi ddim anafiadau pan gafodd archwiliad post-mortem ei gynnal.

Dywedodd y crwner David Bowen nad oedd modd penderfynu pryd na sut y bu i’w chorff gyrraedd yr afon.

Mae wedi cofnodi rheithfarn agored.