Gareth Wyn Jones
Mae dyn ac a gafwyd yn euog o lofruddio dyn arall o dan bont yng Nghaerdydd wedi cael ei garcharu am oes.

Ddoe, cafwyd Gareth Wyn Jones yn euog yn Llys y Goron Caerdydd o lofruddio David Alun Lewis, ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo.

Roedd Jones wedi’i ryddhau o’r carchar bum niwrnod yn unig cyn llofruddio’r dyn, ac fe fu’n brolio wrth ffrindiau ei fod e wedi lladd David Alun Lewis, oedd yn alcoholig.

Roedd Jones, sy’n gaeth i heroin, wedi treulio tair blynedd yn y carchar am drywanu ei gariad gyda fforc.

Dwyn arian

Cafodd David Lewis ei daro 80 o weithiau cyn cael ei dagu a’i adael â’i wyneb i lawr yn y dŵr yn afon Tâf.

Wedi iddo ddwyn £50 oddi ar y dyn fu farw, defnyddiodd Jones yr arian i dalu am gyffuriau cyn ceisio tynnu rhagor o arian allan o gyfrif banc David Lewis o Ystrad Mynach.

Roedd Jones wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ond roedd yn gwadu cyhuddiad o lofruddio ar sail ei gyflwr meddyliol. Roedd wedi honni ei fod yn clywed lleisiau ar y diwrnod y digwyddodd y llofruddiaeth.

Ond penderfynodd y rheithgor yn unfrydol ei fod yn euog o lofruddio.

Mae’n cael ei gadw mewn uned ddiogel yn ysbyty meddwl Ashworth yn Lerpwl.

‘Trasig’

Yn dilyn y ddedfryd heddiw, dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Kath Pritchard o Heddlu’r De: “Roedd hwn yn ddigwyddiad arbennig o drasig a oedd wedi gadael pobol mewn sioc a thristwch ofnadwy.

“Roedd David yn oedolyn diniwed a fu farw mewn amgylchiadau nad oes modd eu dychmygu.

“Roedd ei deulu’n ei garu’n fawr iawn.

“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb ddaeth aton ni gyda gwybodaeth i helpu gyda’r ymchwiliad a gobeithio bod y ddedfryd heddiw yn sicrhau aelodau’r cyhoedd, nid yn unig yng Nghaerdydd ond ledled De Cymru y bydd unrhyw un sy’n targedu diniweidrwydd pobol eraill yn mynd o flaen eu gwell.”