Elisa Haf sy’n trafod gwir werth y protestio yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi …

Penderfynodd rhai myfyrwyr hoyw ac o leiafrifoedd rhywiol eraill yn Aberystwyth nodi agoriad Gemau Olympaidd 2014, drwy ysgrifennu negeseuon o gefnogaeth i’r rheiny sy’n cael eu herlid o achos eu rhywioldeb yn Rwsia mewn sialc y tu allan i adeiladau’r Undeb, y llyfrgell a Chanolfan y Celfyddydau.

Ro’n i’n eu gwylio gyda dau ffrind o ffenestr Canolfan y Celfyddydau, ac roeddem yn anghytuno ynglŷn ag ystyrlonrwydd y weithred.

Yn eu tyb hwy, yr unig werth oedd rhoi cyfle i’r rhai oedd yn cymryd rhan i longyfarch eu hunain am ddangos cefnogaeth nad oedd byth, mewn gwirionedd, yn mynd i gyrraedd lleiafrifoedd rhywiol Rwsia.  Ond do’n i ddim yn gweld hynny’n ddiwerth.

Mae’r byd i gyd yn edrych ar Rwsia ar hyn o bryd, diolch i’r Gemau, ac mae safiad gwleidyddol Rwsia ar berthnasau o’r un rhyw yn blaen: maent yn cael eu cymharu gyda cham-drin plant, eu gweld yn annaturiol ac yn rhywbeth i’w guddio, os nad ei erlid yn gwbl agored.

Byddai’n brofiad reit ddychrynllyd ar gyfer lleiafrifoedd rhywiol y rhannau hynny o’r byd sydd yn ddiweddar wedi symud ymlaen o’r feddylfryd yma petai eu cymunedau yn gweld hyn yn digwydd yn Rwsia heb ymateb.

Mae’n hawdd anghofio pa mor ddiweddar yw’r feddylfryd agored tuag at leiafrifoedd rhywiol a faint o ragfarn a chasineb sydd yn dal i ffrwtian mewn rhai pocedi o’r cymdeithasau hynny sy’n ystyried eu hunain y mwyaf blaengar.

Efallai nad ydy dangos cefnogaeth symbolaidd o Aberystwyth i leiafrifoedd rhywiol Rwsia yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau unrhyw un yn Rwsia. Ond mae’n ofnadwy o bwysig ar gyfer lleiafrifoedd rhywiol yma’n ein gwlad ni.

Mae Elisa yn astudio ar gyfer gradd Feistr yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ei phynciau o ddiddordeb pennaf yw symudiadau cymdeithasol ac, o fewn hynny, trawstoriad eang o frwydrau gorgyffyrddol am gyfiawnder.