Andrew RT Davies
Neithiwr cafwyd y newyddion syfrdanol bod arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad, Andrew RT Davies, wedi rhoi’r sac i bedwar o’i Aelodau Cynulliad.

Roedd yn anhapus eu bod wedi pleidleisio yn ei erbyn ar fater yn ymwneud â datganoli treth incwm i Gymru.

Mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan o blaid datganoli peth treth incwm ond gyda chyfyngiad a fyddai’n rhwystro Llywodraeth Cymru rhag amrywio’r dreth rhwng gwahanol fandiau.

Ond roedd Andrew RT Davies yn erbyn y syniad, gan ddadlau bod angen y gallu i amrywio’r dreth incwm rhwng gwahanol fandiau.

Cytunodd y pedwar Aelod – Nick Ramsay, Antoinette Sandbach, Janet Finch-Saunders a Mohammed Asghar – â safbwynt Ceidwadwyr San Steffan a phleidleisio yn erbyn eu harweinydd, gan arwain at eu diswyddo o’r meinciau blaen.

Ond a wnaeth Andrew RT Davies benderfyniad doeth wrth ddiswyddo aelodau oedd yn ei wrthwynebu? Neu a yw wedi creu rhwyg diangen o fewn ei blaid?