Ddoe cafodd cynhadledd undydd ei chynnal ym Mae Caerdydd gan DG Undeb sy’n Newid, prosiect ar y cyd rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Materion Cymreig a Chymru Yfory.
Aeth Anna Glyn draw i gael sbec.
Doeddwn i ddim yn siwr iawn beth i ddisgwyl wrth gyrraedd y Pierhead â’m gwynt yn fy nwrn ac yn wlyb diferu bore ddoe. Mi oeddwn i wedi cael gwybod mai cynhadledd i glywed barn pobol ifanc am ddatganoli oedd hon i fod. Cynhadledd gallech chi ddadlau oedd yn amserol iawn efo Salmond a Cameron yn trio sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn ei gilydd ddechrau’r wythnos.
Ond nid dim ond pobol yr Alban sydd yn trafod y newid posib i’r Undeb. Mae Comisiwn Silk wrthi yn edrych ar y pwerau sydd gan Gymru ar hyn o bryd ac yn gwyntyllu pynciau fel darlledu, y wladwriaeth les, trafnidiaeth a’r system gyfreithiol.
Geraint Talfan Davies, Cadeirydd y felin drafod Sefydliad Materion Cymreig oedd wrthi’n cynnal gweithdy wrth i mi gyrraedd a darlledu yng Nghymru oedd yn cael ei drafod. Mi oedd yn gofyn digon o gwestiynau i brocio’r gynulleidfa megis a fyddai unrhyw un yn colli deigryn pe byddai papur y Western Mail yn dod i ben? Cymysg oedd yr ymateb gyda un dyn ifanc yn dweud y byddai hyn yn ergyd fawr tra bod eraill yn dweud eu bod yn darllen eu holl newyddion ar y we erbyn hyn.
Codwyd pwnc newyddiaduraeth ac os oes yna ddigon o graffu ar wleidyddion y Cynulliad. Ateb un ferch oedd bod mwy o gyfle i wneud hyn ar blatfform fel twitter pan mae sgwrs yn dechrau rhwng mwy nag un person. Gofynwyd y cwestiwn a ddylai’r cyfrifoldeb am ddarlledu aros yn San Steffan. Poeni y byddai gwleidyddion y Bae yn ymyrryd bob tro oedd safbwynt un dyn yn dilyn saga diweddar pennod o Pobol y Cwm. Trafod TB oedd yr opera sebon ond fe gafon nhw gŵyn swyddogol am fod Llywodraeth Cymru yn teimlo nad oedden nhw wedi ymdrin â’r pwnc yn wrthrychol.
Ar ôl y sesiwn hon fe ddaeth panel o’n blaen i siarad am gapasiti’r Cynulliad. Trafodwyd yma eto y diffyg sylw manwl sydd yn cael ei roi i’r sefydliad gan y cyfryngau yn enwedig yn sgil toriadau Trinty Mirror. Rôl y gwasanaeth sifil oedd dan sylw Matt Williams sydd yn lobïwr yn y maes amgylcheddol. Dweud bod y gweision sifil ddim wedi bod yn barod ar gyfer y pwerau newydd gafodd Cymru yn 2011 oedd o a dweud eu bod nhw dal ar eu hôl hi. Ond mi oedd Ben Lloyd, sydd yn gweithio yn y Cynulliad, yn teimlo bod pethau wedi gwella ac yn dweud y dylid cynyddu nifer yr ACau.
Yn y prynhawn Manon George o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd oedd wrthi yn sôn am y dadleuon o blaid ac yn erbyn cael strwythur gyfreithiol ar wahân i ddelio efo’r deddfau sydd yn cael eu creu yn y Cynulliad. Byddai yn gysondeb rhwng Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban pe byddai hyn yn digwydd a chyfiawnder yn dod yn nes at y bobol oedd rhai o’r dadleuon o blaid newid y drefn. Ond ar y llaw arall mae rhai yn dweud y byddai yna broblemau ymarferol gweinyddu unrhyw newid ac y byddai hyn yn dechrau’r llwybr llithrig tuag at annibyniaeth i Gymru.
Trafod dyfodol yr Undeb ac os y dylai Cymru fod yn annibynol oedd y trefnwyr ar ddiwedd y diwrnod. Fodd bynnag gofynwyd i bobol beidio ail adrodd yr hyn oedd yn cael ei ddweud tu allan i’r ystafell fel bod y gynulleidfa yn medru siarad yn agored heb orfod poeni am unrhyw ymrwymiadau proffesiynol. Siom oedd hynny am ei bod hi’n sgwrs ddifyr.
Wrth adael ddoe yr hyn a darodd fi oedd bod yna ddiddordeb ymlith y bobol yma am y cwestiynau mawr sydd yn cael eu gofyn heddiw. Oedd rhain yn cynrychioli trwch y boblogaeth ifanc? Efallai ddim. Ond efallai y byddan nhw yn gallu persawdio’u ffrindiau yn y dafarn i falio, i boeni ac i sylweddoli bod rhain yn bynciau fydd yn y pen draw yn effeithio ar eu bywydau nhw.