Mae nifer o bobol wedi cael eu dal mewn cwymp eira yn Ucheldir yr Alban – ac mae tri ar goll, yn ôl heddlu lleol.

Fe ddigwyddodd y cwymp yn fuan ar ôl 12.30pm heddiw yn yr ardal sy’n cael ei galw ‘Chalamain Gap’ ar y Cairngorms.

Mae’r heddlu’n cael help Tîm Achub Mynydd Cairngorm, cŵn chwilio ac achub, yn ogystal â thîm achub mynydd Llu Awyr Lossiemouth a hofrennydd.

“Fe all yr heddlu gadarnhau fod nifer o bobol wedi eu dal yn y cwymp,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. Mae, o bosib, dri o bobol ar goll, ac mae’r chwilio’n parhau yn yr ardal.”