Danny Alexander - "rheolau pwysig"
Mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi rheolau newydd er mwyn ceisio lleihau achosion o osgoi trethi gan gwmnïau mawr.
Bydd y rheolau newydd, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill, yn gwahardd cwmnïau ac unigolion sydd wedi defnyddio cynlluniau osgoi trethi rhag gwneud ceisiau ar gyfer cytundebau i weithio i’r Llywodraeth.
Dywedodd y Trysorlys y byddai rhaid i gwmnïau ddatgelu os ydy eu ffurflenni treth erioed wedi cael eu gwrthod gan yr Adran Cyllid a Thollau oherwydd osgoi treth.
Fe fydd y cytundebau newydd hefyd yn rhoi’r hawl i’r llywodraeth ddiddymu cytundeb gyda cwmni, os ydy’n dod i’r amlwg eu bod wedi osgoi talu trethi.
Rheolau pwysig
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander: “Mae’r rheolau yn ddull pwysig arall a fydd yn rhoi’r gallu i’r Llywodraeth wrthod cytundebau gwaith i gwmniau sydd wedi bod yn rhan o gynlluniau osgoi treth yn y gorffennol.”
Mae’r rheolau newydd yn dod wedi achosion nodedig o gwmniau mawr yn osgoi talu trethi ym Mhrydain.
Roedd Starbucks, Amazon a Google ar ganol ffrae ynglŷn â’r Trysorlys y llynedd, ond ni fydd y rheolau newydd yn effeithio arnyn nhw.