Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i VW Transporter du oedd yn cludo criw o bobol gael ei weld yn gyrru’n beryglus ar yr A55 ger Abergwyngregyn heddiw.

Fe gafodd y cerbyd ei weld yn herio criw arall mewn Vauxhall Astra glas ar y briffordd.

Roedd y ddau gar yn teithio i gyfeiriad Llandegai yn y gorllewin, cyn i’r ddau griw ddod allan o’r ceir a herio’i gilydd.

Dywedodd y Sarjant Kim Owen: “Hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y digwyddiadau hyn i gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu fel arall, i ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.”