Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad y ffotograffydd Keith Morris o Aberystwyth.
Does neb wedi gweld y dyn 61 oed ers amser cinio dydd Iau (Hydref 3), ac fe gafodd yr heddlu wybod brynhawn ddoe ei fod e ar goll.
Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn 5’10” o gorffolaeth denau.
Mae’n foel a chanddo fe farf lwyd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano neu sydd wedi ei weld gysylltu â’r heddlu ar 101.