Byddai mynd i’r afael â thlodi plant yn “flaenoriaeth” i Adam Price pe bai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru.

Dyna mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddatgan yn dilyn ei araith yng nghynhadledd flynyddol y Blaid yn Abertawe ar ddydd Gwener (Hydref 4).

Wrth annerch aelodau, soniodd am ei brofiadau yntau o fyw mewn tlodi yn blentyn yn Rhydaman, ac addawodd y byddai’n codi 100,000 o blant o dlodi.

“Dw i’n teimlo cyfrifoldeb fel rhywun a gafodd gyfle,” meddai wrth golwg360 wedi iddo draddodi’r araith. “Ges i gyfle trwy’r sustem addysg, a thrwy fy rhieni. Wnaethon nhw gynilo’u hunain er mwyn cefnogi’r [teulu]…

“Dw i’n edrych ar y cenedlaethau sydd wedi dod ar ein holau, a dydyn nhw ddim wedi cael yr un cyfle. Mae Cymru’n mynd am yn ôl.

“A dw i’n teimlo ei fod yn rheidrwydd arna’ i fel Prif Weinidog i roi hwnna fel y flaenoriaeth gyntaf i fi.”

Ymrwymiadau

Mae Adam Price wedi ymrwymo i roi £35 yr wythnos i bob plentyn ym mhob teulu incwm isel, os daw yn Brif Weinidog.

Mae hefyd wedi addo cyflwyno gofal am ddim i blant rhwng un a thair oed.

Ymhlith ymrwymiadau eraill, oedd yr addewid i sefydlu rheilffordd (“rapid transit service”) i gysylltu rhannau o’r Cymoedd â’i gilydd, a’r addewid i ailagor rheilffyrdd yn y de.