Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Paul Davies wedi lansio ymosodiad ar Blaid Cymru am wrthwynebu Brexit.
Daw hyn wrth i Blaid Cymru gynnal ei Chynhadledd Flynyddol yn Abertawe heddiw ac yfory.
“Dyw Plaid Cymru ddim ond yn blaid dros Gymru mewn enw,” meddai Paul Davies.
“Tydyn nhw ddim yn ymddiried ym mhobl Cymru i wneud penderfyniadau dros eu hunain. Yn hytrach mae Plaid Cymru eisiau dal ein gwlad yn ôl drwy dynnu Cymru allan o un undeb er mwyn ein tywys yn ôl i undeb sy’n llai democrataidd a mwy biwrocrataidd, gan gymryd pwerau oddi wrth bobl Cymru.”